Techniquest

Mae Techniquest wedi’i leoli ar: Stryd Stuart, Caerdydd, CF10 5BW.

Os ydych yn defnyddio what3words, ein cyfeirnod yw ///fairly.occupy.trucks.

Teithio mewn car / ar fws

Nid oes maes parcio i ymwelwyr ar safle Techniquest, ond mae sawl maes parcio gerllaw.

Q-Park (taith wyth munud)

Q-Park Rydyn ni’n falch o gynnig parcio am gyfradd is i bob un o’n hymwelwyr, gyda Q-Park, ein partner parcio dewisol. Mae maes parcio Q-Park ar Stryd Pierhead, Bae Caerdydd, oddeutu 8 munud o gerdded o Techniquest.

Rydyn ni wedi cytuno ar gyfradd arbennig, sef gostyngiad o 15% ar bris parcio i’n cwsmeriaid os ydynt yn archebu gofod parcio ymlaen llaw.
Archebwch ymlaen llaw a defnyddiwch y cod TECHNI15.

Meysydd parcio eraill (taith tri munud neu lai)

Neu, mae meysydd parcio agosach ar Stryd Stuart a Stryd Havannah. Gofynnwn yn garedig i chi beidio â pharcio yn uniongyrchol ar Stryd Havannah.

Teithio ar drên

Mae gwasanaethau trên rheolaidd rhwng Stryd y Frenhines, Caerdydd a Bae Caerdydd – mae Techniquest oddeutu 10 munud o gerdded o Orsaf Bae Caerdydd.

  Trainline   National Rail  Trafnidiaeth Cymru

Teithio ar fws

Teithiwch ar wasanaeth rheolaidd y Bae (rhif 6) am linc uniongyrchol i’r Bae o ganol y ddinas, neu rifau 1, 2, neu 8 am wasanaethau eraill. Mae yna wasanaethau bws eraill yn stopio wrth Techniquest — gwelwch wefan Traveline neu wasanaethau cynllunio taith eraill i weld yr holl opsiynau posib.

  Traveline Cymru   Cardiff Bus

Teithio ar feic

Mae Techniquest wedi’i leoli yn agos at gychwyn Taith Taf. Mae gennym ni gyfleusterau storio beiciau wrth y brif fynedfa. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw achos o golli neu ddifrodi unrhyw feiciau a gadwir yma.

Mae yna ganllaw ar y wefan You Well am logi beiciau a beiciau trydanol yng Nghaerdydd, a allai fod yn ddefnyddiol i chi:

  You Well