Techniquest

Rydyn ni wedi gosod nifer o fesurau iechyd a diogelwch mewn grym i sicrhau diogelwch ein hymwelwyr.

  • Rydyn ni’n gweithredu amseroedd penodol i ddeiliaid tocynnau ddod i mewn i’r ganolfan, ac rydyn yn argymell eich bod chi’n archebu slot ymlaen llaw gan ein bod ni’n cyfyngu ar niferoedd er mwyn osgoi gorlenwi.
  • Rydyn ni wedi addasu cynllun yr arddangosfa i ganiatáu rhagor o le rhwng arddangosion.
  • Mae hylif diheintio dwylo ar gael mewn sawl man yn y ganolfan ac mae croeso i chi ofyn i’n staff wrth y ddesg flaen am ysgrifbin i’w defnyddio gyda’n sgriniau cyffwrdd.
  • Rydyn ni’n ffafrio taliadau digyffwrdd yn ein Siop, ond mae croeso i chi ddefnyddio arian neu gerdyn banc hefyd.
  • Mae mesurau glanhau ychwanegol yn weithredol gan ein tîm o lanhawyr mewnol a chontractwyr. Mae pob hylif a defnyddir i lanhau ardaloedd cyhoeddus yn ddiogel i’w gyffwrdd.
  • Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, nid yw bellach yn orfodol gwisgo gorchudd wyneb yn Techniquest. Fodd bynnag, mae croeso i chi wisgo mwgwd os byddech chi’n teimlo’n fwy cyfforddus yn gwneud hynny.

Trwsio arddangosion

Rydyn ni’n ceisio sicrhau bod pob un arddangosyn yn weithredol ar gyfer eich ymweliad, a gyda dros 100 i’w gweld, mae digon o ddewis.

Ond, gan ein bod ni’n ganolfan rhyngweithiol, ymarferol, mae’n anochel bod mecanwaith, rhannau electroneg neu strwythur ein harddangosion yn ffaelu o bryd i’w gilydd. Mae’n ddigon posib felly y bydd rhai arddangosion yn cael eu trwsio pan fyddwch yn ymweld.

Fel arfer gallwn drwsio pethau yn ddigon cyflym, ond weithiau gall bethau gymryd rhagor o amser, er enghraifft os fyddwn ni’n aros am ddarnau newydd i’n cyrraedd ni.

Ein nod yw cyfyngu ar y nifer o arddangosion sy’n cael eu trwsio ar unrhyw adeg. Byddwn hefyd yn cadw cofnod isod o unrhyw arddangosion sydd yn cael eu trwsio ac sy’n debygol o gymryd amser hirach, fel y gallwch wirio cyn eich ymweliad.

Yn cael eu trwsio, neu’n aros am ddarnau ar hyn o bryd

  • Balŵn Aer Poeth
  • Syrthio i Fyny
  • Llaw Robotaidd

Gallwch chi ein helpu

Os ydych chi’n sylwi ar rywbeth sydd wedi torri neu ddim yn gweithio fel y dylai yn ystod eich ymweliad, dwedwch wrth aelod o staff. Gallwn ni fynd ati i’w drwsio yn syth bin. Weithiau’r cyfan sydd angen ei wneud yw ailgychwyn neu ailosod, sy’n ddigon hawdd.

Gwnewch y mwyaf o’ch ymweliad

Gobeithio y byddwch chi wrth eich boddau gyda’r arddangosion newydd. Os ydych wedi ymweld â Techniquest o’r blaen fe sylwch fod nifer ohonynt yn defnyddio technoleg fwy cymhleth nag arddangosion blaenorol a bod rhai yn fwy addas i oedolion a phlant hŷn.

Wrth ystyried hyn, rydyn ni’n eich annog chi i ddarllen y cyfarwyddiadau ar y sgriniau sydd gyda’r arddangosion, er mwyn sicrhau eich bod yn cael y mwyaf o’r profiad.

Os na fyddwch yn siŵr, gofynnwch i’n staff — byddant yn fwy na pharod i’ch helpu, drwy esbonio sut i wneud y gorau o’r arddangosion newydd, a chynghori ar beth sydd orau i ystod oedran eich grŵp. Byddwch yn ofalus gyda’r arddangosion, a dilynwch y cyfarwyddiadau, fel y gall bawb eu mwynhau.

Os ydych yn bwriadu dod â babi neu blentyn ifanc iawn gyda chi, fe allai fod yn ddefnyddiol i chi fynd i’r dudalen babanod ymlaen llaw. Mae gwybodaeth am hygyrchedd, cyfleusterau, parcio a llawer mwy i’w weld ar ein tudalen hygyrchedd a chyfleusterau.

Cofiwch, os nag ydych chi wedi archebu ar-lein eto, wrth archebu tocyn cyffredinol mae modd ychwanegu gweithgareddau eraill, megis gweithdy yn y Lab KLA, profiad Planetariwm neu docyn i Sioe Wyddoniaeth Fyw.

Os ydych chi wedi archebu tocyn cyffredinol eisoes ac am ychwanegu profiadau eraill, peidiwch â phoeni. Er bod niferoedd yn gyfyngedig, peidiwch â bod ofn gofyn i’n staff os oes lle ar ôl, i chi ymuno yn un o’r nifer o weithgareddau ychwanegol sydd ar gael. Bydd ein staff yn hapus i’ch helpu.

Mwynhewch eich ymweliad i Techniquest!