Techniquest

Amseroedd agor

Mae capasiti yn gyfyngedig, felly archebwch ar-lein ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Rydyn ni’n rhoi amseroedd penodol i ddeiliaid tocynnau ddod i mewn i’r ganolfan, gyda’r amser olaf dwy awr cyn i’r adeilad gau. Ceisiwch sicrhau eich bod yn cyrraedd dim hwyrach na 30 munud ar ôl eich amser penodedig.

Dydd Sadwrn 5 Ebrill 10:00 AM – 5:00 PM
Dydd Sul 6 Ebrill Sesiwn Hamddenol rhwng 10am a 12pm 10:00 AM – 5:00 PM
Dydd Llun 7 Ebrill Ar gau
Dydd Mawrth 8 Ebrill Ar gau
Dydd Mercher 9 Ebrill Diwrnod Addysgwyr yn y Cartref 10:00 AM – 5:00 PM
Dydd Iau 10 Ebrill 2:00 PM – 5:00 PM
Dydd Gwener 11 Ebrill 2:00 PM – 5:00 PM

Pris mynediad

Math o docynGyda rhodd*Safonol
Oedolyn
16+ Oed
£14.00£12.72
Plentyn
3–15 Oed
£12.00£10.90
Dan 3 oed
0–2 Oed
Am ddimAm ddim
Consesiwn
Yn gymwys i: Bobl hŷn (65+); ymwelwyr sydd ag anabledd; myfyrwyr sydd â cherdyn NUS dilys; derbynyddion Credyd Cynhwysol neu Lwfans Ceisio Gwaith. Mae’n bosib y byddwn yn gofyn i weld tystiolaeth adnabod.
£12.50£11.36
Gofalwr hanfodol
Bydd angen i chi ddod â thystiolaeth adnabod gyda chi fel y gallwn ni brosesu eich tocyn mynediad. 1 gofalwr hanfodol fesul tocyn consesiwn.
Am ddimAm ddim
Teulu
Hyd at 5 person, uchafswm o 2 oedolyn/consesiwn (16+)
£48.00£43.63
  archebu tocynnau

Ydych chi’n ddeiliad tocyn Adegau Tawel? Mae dal angen i chi archebu cyn ymweld er mwyn sicrhau mynediad. Darganfyddwch fwy am y Tocyn Adegau Tawel.

Grŵp o 12-40 o bobl? Gallwch fanteisio ar ddisgownt grŵp wrth drefnu eich ymweliad. Os ydych chi’n trefnu ymweliad ar gyfer 41+ o bobl, cysylltwch â ni i drafod eich anghenion.

* Mae Techniquest yn elusen gofrestredig ac mae tocyn yn cynnwys rhodd wirfoddol o oddeutu 10%. Mae hyn yn galluogi Techniquest i hawlio Rhodd Cymorth ar 100% o bris mynediad. Mae pob ceiniog yn mynd tuag at gefnogi Techniquest a’i nod o sicrhau bod gwyddoniaeth yn agored i bawb.

Tocyn Adegau Tawel

Dewch i Techniquest yn amlach ac archebwch arian drwy gofrestru am docyn adegau tawel blynyddol!

Mae’r tocyn yn caniatáu i chi ddod yn ôl i edrych o gwmpas y brif arddangosfa cynifer o weithiau a fynnwch mewn cyfnod o 12 mis o’r adeg y prynwyd y tocyn. Mae’r tocyn yn gymwys ar unrhyw benwythnos y tu allan i wyliau ysgol lleol, neu ar unrhyw ddiwrnod wythnos, ar mynediad hwyr neu ar Ddiwrnod Plant Bach sy’n rhedeg yn ystod y tymor ysgol.

Mae’r adegau hyn fel arfer yn dawelach, felly mae’n amser gwych i ymweld â ni os oes well gennych chi osgoi’r dorf yn ystod y gwyliau ysgol.

 Gyda rhoddHeb rodd
Oedolyn
16+ oed
£38.00£34.54
Plentyn
3-15 oed
£33.00£30.00
Teulu
Hyd at 5 person, uchafswm o 2 oedolyn (16+)
£134.00£121.81
Consesiwn£35.00£31.81

Po fwyaf y byddwch yn ymweld â Techniquest, po fwyaf o arian y byddwch yn ei arbed. Byddwch yn cychwyn arbed arian ar ôl eich trydydd ymweliad.

Peidiwch â phoeni, gallwch barhau i ychwanegu sioe wyddoniaeth fyw, ymweliad â’r planetariwm neu weithdy ymarferol i’ch archeb pryd bynnag a fynnwch. I wneud hyn, ychwanegwch yr opsiwn dewisol i’ch archeb wrth archebu eich ymweliad ar-lein, am bris arferol o £2.50 ychwanegol fesul person.

 Cymerwch eich tocyn

Dim ond y defnyddiwr a enwir gall ddefnyddio pob tocyn a brynir ac ni ddylid ei rannu ag eraill. Dim ond un tocyn gall cael ei archebu ar unrhyw un dydd.


Ydych chi’n ddeiliad tocyn eisoes?

Mae dal angen i chi archebu lle ymlaen llaw i sicrhau mynediad!

  Mynediad Cyffredinol   Mynediad Hwyr   Diwrnod Plant Bach


Dyddiadau Gwyliau Ysgol Eithriedig

2025: 1–5 Ionawr, 22 Chwefror–2 Mawrth, 12–27 Ebrill, 24 Mai–1 Mehefin, 19 Gorffennaf–31 Awst, 25 Hydref–2 Tachwedd, 20–31 Rhagfyr
2026: 1–4 Ionawr, 14–22 Chwefror, 28 Mawrth–12 Ebrill, 23–31 Mai
Byddem yn ychwanegu rhagor o ddyddiadau gwaharddiad 2026 yn fuan.