Techniquest

Gan Josie Prosser, Gwesteiwr Wyddoniaeth Fyw

Archwiliodd gwesteiwr wyddoniaeth fyw Josie y gynrychiolaeth o fenwyod mewn STEM, a pham mae’n bwysig i gynyddu’r cyfradd:

Yn y brifysgol a diwydiant, dydy menywod byth wedi cael eu cynrychioli’n deg mewn meysydd STEM, a — fel menyw sy’n gweithio mewn STEM — dwi’n credu mai’n amser i newid hon.

I ddechrau, gad i ni edrych ar y ffeithiau. Yn y DU, mae menywod a phobl anneuaidd yn wneud 31% o’r rheini sy’n astudio meysydd STEM yn addysg uwchradd, fel ffiseg, cyfrifiadureg neu gemeg.

Am gyrsiau peirianneg a thechnoleg, mae’r ffigwr yn is eto. Er gwaethaf gweld cynnydd bach yn y pum mlynedd diwethaf, wnaeth dim ond 23% o ddisgyblion adnabod eu hun fel menyw neu berson anneuaidd yn 2022/23 — sydd lan o’r 21% yn 2017/18.

Beth sy’n digwydd i’r disgyblion ar ôl iddyn nhw raddio? Yn ôl ffigyrau llywodraethol cafodd eu rhannu yn 2023, o’r 9.4 miliwn o weithwyr mewn meysydd STEM yn y DU, mae dim ond 25% ohoni yn fenywod.

Yn 2022, wnaeth y nifer o beiriannwyr proffesiynol a oedd yn adnabod eu hun fel menyw neu berson anneuaidd gwneud cyfanswm o 12% o’r gweithwyr, sydd ddim yn annisgwyl ar ôl archwilio’r ffigyrau academaidd!

SparkLabs yn darparu gweithdy mewn ein Labordy KLA, 2022

Felly, pam ydy lleihau’r bwlch mor bwysig? Yn syml, wrth i ni gynyddu’r nifer o ddemograffaidd sy’n meddwl am broblem, byddwn ni’n cynyddu’r nifer o ddatrysiadau gallwn osod. Er enghraifft, pan gafodd gwregysau diogelwch eu creu, cafodd eu dylunio â dynion mewn cof, a wnaeth menywod a phlant profi mwy o niweidiau fel canlyniad. Gall amrywiaeth yn y gweithle hwbi creadigedd ac arwain at ddatrys problemau yn gyflymach.

Mae menywod mewn STEM wedi gwneud camau enfawr mewn eu meysydd penodol yn barod. Un esiampl yw cemegwr Americanaidd Stephanie Kwolek. Fe wnaeth hi ddarganfod defnydd caled ac ysgafn iawn wrth iddi ymchwilio cadwynau o foleciwlau hir mewn tymhereddau isel. Wnaeth y darganfyddiad arwain at greadigaeth nifer o ddefnyddiau gan gynnwys Kevlar, sydd heddiw yn cael ei ddefnyddio i arbed bywydau, a chreu lloerennau, teiars, menig amddiffynol a mwy.

Enghraifft arall yw Emmy Noether, mathemategwr o’r Almaeneg a wnaeth ennill ei PhD yn 1907 o’i phrifysgol leol yn Erlangen. Gweithiodd hi mewn Sefydliad Mathemategol y brifysgol am saith mlynedd heb gyflog, a phrofodd hi dwy theorem yn ystod ei gyrfa. Cafodd yr un cyntaf ei alw’n seren dywysu am ffisegwyr yn yr 20fed a’r 21ain ganrif.

Disgybl yn cyflwyno ei phrosiect ymchwil ar gyfer Lleoliadau Ymchwil a Phrofiadau, 2023

Felly, beth sy’n cael ei wneud i annog merched i fynd ar ôl gyrfa mewn STEM? Yn gyntaf, rydym ni angen meddwl amdano’r ffyrdd mae’r gyrfaoedd yn cael eu canfod trwy gael gwared ag unrhyw stereoteipiau anymwybodol yn y meysydd.

Un o’r pethau rydym ni’n ei wneud yn Techniquest yw darparu rhaglenni ‘outreach’ yn y gymuned leol i annog y genhedlaeth nesaf o ferched a phobl anneuaidd i ddilyn gyrfa STEM.

Gall hyrwyddo modelau rolau benywaidd yn y byd gwyddoniaeth, fel Stephanie Kwolek, Emmy Noether, Mae Jemison a mwy — o hanes gwyddoniaeth i’r byd modern — hefyd lledaenu ymwybyddiaeth.

Bydd addysgu pobl ifanc amdano’r llwyddiannau’r menywod yma yn dangos merched bod gallant nhw fynd ar ôl gwyddoniaeth hefyd — a byth gadael i unrhyw beth atal nhw rhag cyrraedd eu breuddwydion!