Mae’r moroedd yn gorchuddio dros 70% o arwyneb ein planed. Mae’n rhan hollbwysig o ecosystem y Ddaear ac mae’n llawn bywyd mawr a bach.
Ymunwch â ni ar siwrnai sy’n mynd o’r riffau cwrel prydferth i ddyfnderoedd tywyll lle mae pysgod yn disgleirio yn y tywyllwch a llu o greaduriaid yn trigo. Byddwn yn darganfod mwy am sut mae ein moroedd yn newid a’r hyn y gallwn ni ei wneud i ddiogelu bydoedd tanddwr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Bydd cyfle i chi brofi eich gwybodaeth bersonol gyda chwis yn llawn ffeithiau’r môr, a gweld os fyddech chi’n gwneud eigionegydd penigamp! Byddwn ni hyd yn oed yn darganfod ffordd ffrwydrol o greu dŵr!
Nodwch mai Saesneg yw iaith y sioe hon.
Mae’n gyflwynyddion Sioe Wyddoniaeth Fyw yn datblygu i’r grŵp maen nhw’n cyflwyno i, felly gall unrhyw un cymryd rhan!
Plîs nodwch fod angen i bob tocyn sioe cael ei archebu law-yn-llaw efo tocyn cyffredinol. Cofiwch archebu eich ymweliadau cryn dipyn ymlaen llaw gan fod mynediad yn dal yn ddarostyngedig i argaeledd!
Mae yna ffrwydrad swnllyd tuag at ddiwedd y sioe. Bydd pawb yn derbyn amddiffynwyr clust cyn i’r sioe dechrau, a bydd digon o rybudd cyn y ffrwydrad.
Penwythnosau a thrwy wyliau ysgol o 8 Chwefror
dyddiadau ar gael
Dyma ble rydym ni’n dod â gwyddoniaeth i fyw o flaen eich llygaid.
Cymerwch sedd mewn ein hawditoriwm – sy’n seddi 90 bobl – ble bydd ein cyflwynydd deniadol yn dangos chi arbrofion anghredadwy.
Yn dibynnu ar y sioe, gallent gynnwys ffrwydradau ffyrnig, cemegau gwallgof, tân troellog neu lansiadau rocedi rhyfeddol!
Plîs nodwch rydym yn gallu cymodi 2 westeion mewn cadeirion olwyn i bob sioe.