Techniquest

I oedolion
Iau 15 Chw, 7:00pm–10:30pm
18+ Oed
Tocynnau £15

Ydych chi erioed wedi meddwl pam rydyn ni’n cwympo mewn cariad? Neu feddwl a yw’n werth buddsoddi mewn diod garu ar gyfer partner eich breuddwydion?

Fel rhan o wythnos Sant Ffolant yn Techniquest byddwn yn rhoi’r siawns i chi ddarganfod y cyfan sydd i wybod am bŵer cariad, pan fyddwn yn cynnal ein noson i oedolion nesaf, Love on the Brain, ar Ddydd Iau 15 Chwefror.

Yn ogystal â’ch diod am ddim wrth gyrraedd, fe welwch chi orsaf fwyd a bar ar y safle hefyd, a gallwch fwynhau amrywiaeth o weithgareddau a dros 100 o arddangosion ymarferol heb blentyn yn eich golwg.

Gallwch dreulio amser o dan y Lleuad o Gariad yn ein Planetariwm gyda’r sêr yn disgleirio uwch eich pen os ydych yn ychwanegu un o’n Star Tours poblogaidd i’ch tocyn cyffredinol. Ond cofiwch archebu’n gynnar i ddiogelu eich sedd, oherwydd mae gennym ni gynhwysedd cyfyngedig ac ni fyddech chi eisiau colli allan ar weld Venus tra byddwch yn cael y cyfle!

Os bu ‘noson ddêt’ berffaith erioed yn Techniquest, dyma hi!

Dim yn sicr beth i ddisgwyl o’n Noson i Oedolion? Cymerwch gip olwg ar beth ddwedodd pobl a wnaeth mynychu Noson i Oedolion arall blwyddyn ddiwethaf!


Mae eich tocyn yn cynnwys:

  • Entry to Techniquest for the evening
  • Gwydriad o “ddiod cariad” wrth i chi gyrraedd
  • Cyflwyniad Atyniad Rhywiol * — wedi’i gyflwyno gan Bob Snowden o Brifysgol Caerdydd
  • Gemau bwrdd â’r thema cariad o Chance & Counters — Yn anffodus, dydy Chance & Counters ddim yn gallu mynychu’r noson heno
  • Star Tours yn y Planetariwm 360°*— WEDI’U GWERTHU ALLAN
  • Arddangosfeydd rhyngweithiol i gymryd rhan ynddo
  • Canau cariad i glywed trwy’r nos
  • Ymddangosiad arbennig o’r Technicolour Choir
  • Bwth ffotograffau ar gael i gymryd ‘selfies’ rhamantaidd
  • Croesair ‘Valentine’s’ â siawns i ennill tocynnau i’r Noson Oedolion nesaf

* Cynhwysedd cyfyngedig. Mae’r sgwrs Atyniad Rhywiol ar sail cyntaf i’r felin. Gall tocynnau ar gyfer y Daith Sêr cael eu harchebu wrth i chi brynu eich tocynnau cyffredinol.

Amserau agor

  • 7:00pm–10:00pm
  • 7:30pm–10:30pm

Gofynion

Mae’n rhaid bod yn 18+ i fynychu’r digwyddiad.

Mynediad

TocynPris
Safonol£15
Cyntaf i'r felin — WEDI'U GWERTHU ALLAN£10
  Archebu tocynnau

 
Wedi’i ffilmio yn Adult Lates: Making Waves, Yr Haf 2023

 
Wedi’i ffilmio yn After Hours: Trick or Treat, Hydref 2023


Cefnogir gan:

Admiral

 

Pryd?

Dydd Iau 15 Chwefror

Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Dydd Sul
Dydd L
Dydd M
Dydd M
Dydd I
Dydd G
Dydd S
Dydd S
30
31
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
1
2

dyddiadau ar gael

Gweithgareddau eraill yn Techniquest