Dioddefwyr — rydym yn golygu ‘ymwelwyr’ — mae gwahoddiad i chi gamu mewn i fyd hudol Ghoul School yr Hydref ‘ma!
I wneud y mwyaf allan o Galan Gaeaf, byddwn ni’n edrych ar sut gallwch ddefnyddio gwyddoniaeth a thechnoleg i sicrhau bod y noson yn sgrech go iawn.
Yn ein Ghoul School, byddwch yn dysgu sut i greu awyrgylch brawychus, gwneud mynediad dychrynllyd a gorffen gyda ffrwydrad.
Felly byddwch yn barod am brofiad arswydus bydd pawb yn siwr o’i fwynhau!
Mae’n gyflwynyddion Sioe Wyddoniaeth Fyw yn datblygu i’r grŵp maen nhw’n cyflwyno i, felly gall unrhywun o 5 i 95 cymryd rhan!
Mae ‘na siawns byddwch chi ddim yn ffeindio’r demos fyw ym mherthnasol i blant dan bump, ond all wneud yn siŵr gan ofyn eilod o’r tîm.
Plîs nodwch fod angen i bob tocyn sioe cael ei archebu law-yn-llaw efo tocyn cyffredinol. Cofiwch archebu eich ymweliadau cryn dipyn ymlaen llaw gan fod mynediad yn dal yn ddarostyngedig i argaeledd!
Os oes gennych chi reoliadur y galon neu ddyfais feddygol arall wedi’i mewnblannu, byddwn yn eich cynghori i eistedd tuag at gefn y Theatr Wyddoniaeth gan fod un o’r arddangosiadau’n cynhyrchu maes trydanol, a allai effeithio ar rai dyfeisiau.
Os ydych chi’n defnyddio cadair olwyn a bod gennych chi hefyd reoliadur y galon neu ddyfais feddygol arall wedi’i mewnblannu, yn anffodus ni fyddwn yn gallu eich derbyn i’r sioe benodol hon, gan fod y mannau i gadeiriau olwyn yn y Theatr Wyddoniaeth yn agos iawn at y llwyfan.
Mae yna ffrwydrad swnllyd tuag at ddiwedd y sioe. Bydd pawb yn derbyn amddiffynwyr clust cyn i’r sioe dechrau, a bydd digon o rybudd cyn y ffrwydrad.
Weekends in October & first part of half-term
dyddiadau ar gael
Dyma ble rydym ni’n dod â gwyddoniaeth i fyw o flaen eich llygaid.
Cymerwch sedd mewn ein hawditoriwm – sy’n seddi 90 bobl – ble bydd ein cyflwynydd deniadol yn dangos chi arbrofion anghredadwy.
Yn dibynnu ar y sioe, gallent gynnwys ffrwydradau ffyrnig, cemegau gwallgof, tân troellog neu lansiadau rocedi rhyfeddol!
Plîs nodwch rydym yn gallu cymodi 2 westeion mewn cadeirion olwyn i bob sioe.