Ar Ddiwrnodau Plant Bach mae’r arddangosfeydd wedi’u neilltuo i blant bach, er mwyn iddynt gael mwynhau mewn awyrgylch ddiogel.
Yn ystod pob Diwrnod Plant Bach bydd nifer o weithgareddau wedi’u teilwra’n arbennig i’ch plant ifanc. Mae rhai yn gynwysedig ym mhris eich tocyn ac mae ambell i un yn costio’n ychwanegol.
Rhan o bob Diwrnod Plant Bach
Yn gynwysedig ym mhris eich tocyn
Addurnwch eich hun gyda throsluniau lliwgar, a dangoswch y patrymau gwych i’ch ffrindiau bach.
Rhan o bob Diwrnod Plant Bach
Yn gynwysedig ym mhris eich tocyn
Ydy’r plantos angen hoe fach o’r arddangosfeydd? Beth am ymlacio a mwynhau bod yn greadigol?
Rhan o bob Diwrnod Plant Bach
Yn gynwysedig ym mhris eich tocyn
Beth am swatio yn ein cornel ddarllen a mwynhau casgliad hyfryd o lyfrau Cymraeg a Saesneg a storïau rhyngweithiol.
Yn ychwanegol i reini, dyma’r gweithgareddau eraill sydd ar gael ar bob Diwrnod Plant Bach:
O’r diferyn glaw lleiaf i’r cefnfor dyfnach, mae’r dathliad bendigedig o’r cylch dŵr hwn yn dangos symudiad dŵr ar draws y Ddaear.
Ymunwch â ni ar daith ryngweithiol y synhwyrau wrth i ni archwilio’r cylch dŵr, yn teithio o law i’r môr, o lif i gymylau a chreu ffon glaw eich hun!
£3.50 y plentyn
Mae’r Mini Movement yn ddosbarth dawns a datblygiad unigryw am fabanod, plant bach a rhieni wedi’i ddatblygu gan ffisiotherapydd pediatrig ac athro dawns.
Mae eu dosbarthiadau rhyngweithiol llawn hwyl yn ffocysu ar ddatblygu sgiliau echddygol plant bach trwy’r byd dawns a cherddoriaeth, gan hefyd cyflwyno chwarae synhwyrol, tylina babanod a chymdeithasoli.
Mae’r sesiynau wedi’i gynnwys mewn pris mynediad y Diwrnod Plant Bach ond mae’n rhaid archebu o flaen llaw i warantu eich lle.
Wedi’i gynnwys mewn pris mynediad.
Mae gan Long John criw o fôr-ladron wyllt ac — am ddwy blant di-fraw — bydd e a’i griw yn trawsnewid noson arferol i daith anhygoel o dan lleuad môr-leidr.
Mae’n amser i greu CAWL MÔR-LEIDR! Ymunwch â ni am daith synhwyraidd rhyngweithiol wrth i ni archwilio beth sy’n mynd mewn i gawl môr-leidr perffaith.
£3.50 y plentyn
Cerddoriaeth a Symudiad i chi a’ch plentyn bach!
Mae’r sesiynau wedi’i gynnwys yn y pris mynediad Dydd Plant Bach ond mae angen i chi archebu o flaen llaw i warantu eich lle.
Wedi’i gynnwys yn bris mynediad.
Math o docyn | Gyda rhodd* | Safonol |
---|---|---|
Plant bach 0–2 oed | Am ddim | Am ddim |
Oedolyn 16+ oed | £14.00 | £12.72 |
Plentyn 3–15 oed | £12.00 | £10.90 |
Consesiwn Yn gymwys i: Bobl hŷn (65+); ymwelwyr sydd ag anabledd; myfyrwyr sydd â cherdyn NUS dilys; derbynyddion Credyd Cynhwysol neu Lwfans Ceisio Gwaith. Mae’n bosib y byddwn yn gofyn i weld tystiolaeth adnabod. | £12.50 | £11.36 |
Gofalwr hanfodol Bydd angen i chi ddod â thystiolaeth adnabod gyda chi fel y gallwn ni brosesu eich tocyn mynediad. 1 gofalwr hanfodol fesul tocyn consesiwn. | Am ddim | Am ddim |
Teulu Hyd at 5 person, uchafswm o 2 oedolyn (16+) | £48.00 | £43.63 |
* Mae Techniquest yn elusen gofrestredig ac mae tocyn yn cynnwys rhodd wirfoddol o oddeutu 10%. Mae hyn yn galluogi Techniquest i hawlio Rhodd Cymorth ar 100% o bris mynediad. Mae pob ceiniog yn mynd tuag at gefnogi Techniquest a’i nod o sicrhau bod gwyddoniaeth yn agored i bawb.
Un dydd Gwener y mis yn ystod y tymor ysgol
dyddiadau ar gael
Hysbysiadau