Ehangwch eich meddwl ac archwiliwch pob arddangosyn rhyngweithiol sydd gan Techniquest i’w gynnig, yng nghwmni oedolion tebyg.
Y gofod yw’r thema, felly paratowch am brofiad di-ail yng Nghanolfan Darganfod Wyddoniaeth mwyaf Cymru, wedi’i leoli ger y glannau ym Mae Caerdydd.
Bydd astroffisegwr Dr Mark Smith yn cyflwyno darlith ddiddorol ar yr Haul, Ffiseg Heulol ac Ymasiad Niwclear — a does dim angen gwybod unrhyw beth amdani!
Star Tours — Darganfyddwch fwy am gytserau cyfarwydd, y planedau a sut mae sêr yn cael eu creu a sut maent yn marw. Dewch i’n planetariwm digidol i fwynhau taith drwy’r gofod. Cyfle i weld rhai o olygfeydd prydferthaf y gofod megis galaethau pell ac uwchnofâu.
Mae tocyn yn cynnwys diod o Coffee Mania, y caffi drws nesaf, ac i gyd o’r gweithgareddau sydd wedi’u rhestri.
Nodwch: Mae Bingo’r Gofod, Star Tours a’r cyflwyniad yn y Theatr Wyddoniaeth ar sail ‘y cyntaf i’r felin’ ar y dydd.
Dydd Mercher 5 Mawrth
dyddiadau ar gael