Techniquest

Addysg
10am–5pm
5+ Oed
Sioeau a gweithdai ar gael

Gall Addysgwyr yn y Cartref ddod a’u plant i Techniquest yn ystod y tymor ysgol am bris is.

Mae dau lawr o arddangosion ymarferol ar gael i gyfoethogi eu dysgu, yn ogystal â gweithgareddau ychwanegol opsiynol sy’n amrywio o fis i fis.
 


 

Gweithgareddau diwrnod addysgwyr yn y cartref

Mae Sioeau Gwyddoniaeth Byw a gweithdai labordy addysgol ar gael yn ystod diwrnodau addysgwyr yn y cartref am gost ychwanegol bychan (mae llefydd yn gyfyngedig).

Ar ddyddiau pan fydd mwy nag un Sioe Wyddoniaeth Fyw yn y Theatr Wyddoniaeth, mae mynediad i un sioe yn caniatáu mynediad am ddim i’r sioe arall. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud ydi ychwanegu’r ddwy i’ch basged a byddwn yn sicrhau bod y gostyngiad yn cael ei ychwanegu cyn i chi dalu. Nodwch mai gostyngiad ar gyfer y Sioeau Gwyddoniaeth Byw ydi hwn yn unig, ac nid yw’n gymwys ar gyfer y gweithdai Lab na’r Planetariwm.

 

Mercher 15 Ionawr 2025

Cemeg Lliwgar
Sioe wyddoniaeth fyw
  BOGOF gyda’r Elfennol

5–7 oed 7–11 oed

Elfennol
Sioe wyddoniaeth fyw
  BOGOF gyda Cemeg Lliwgar

11–14 oed

Star Tours
Sioe Planetariwm

5–7 oed 7–11 oed

DNA Decoded
Gweithdy labordy — o leiaf 7 oed

7–11 oed

 

Mercher 12 Chwefror 2025

Anifeiliaid a Chynefinoedd
Sioe wyddoniaeth fyw
  BOGOF gyda’r Chwilotwyr y Cefnfor

5–7 oed

Chwilotwyr y Cefnfor
Sioe wyddoniaeth fyw
  BOGOF gyda Anifeiliaid a Chynefinoedd

7–11 oed

Star Tours
Sioe Planetariwm

5–7 oed 7–11 oed

Water’s Going On?
Gweithdy labordy — o leiaf 7 oed

7–11 oed


 

Mynediad i ddwirnod addysgwyr yn y cartref

TocynGyda Rhodd*Safonol
Plentyn-£5.00
Oedolyn yn mynychu gyda phlentyn
16+ Oed
£13.00£11.81
Tocynnau consesiwn i’r rheiny sy’n mynychu gyda phlentyn
Yn gymwys i: Bobl hŷn (65+); ymwelwyr sydd ag anabledd; myfyrwyr sydd â cherdyn NUS dilys; derbynyddion Credyd Cynhwysol neu Lwfans Ceisio Gwaith. Mae’n bosib y byddwn yn gofyn i weld tystiolaeth adnabod.
£11.50£10.45
Plant dan 3 oed sy’n mynychu gyda phlentyn
0–2 Oed
Am ddimAm ddim
* Mae Techniquest yn elusen gofrestredig ac mae tocyn yn cynnwys rhodd wirfoddol o oddeutu 10%. Mae hyn yn galluogi Techniquest i hawlio Rhodd Cymorth ar 100% o bris mynediad. Mae pob ceiniog yn mynd tuag at gefnogi Techniquest a’i nod o sicrhau bod gwyddoniaeth yn agored i bawb.

Tocyn oedolyn, Addysgwr yn y Cartref


Rydyn ni am ei gwneud hi’n haws i deuluoedd sy’n addysgu gartref i ymweld â ni yn fwy aml.

Dyna pam ein bod ni’n cyflwyno tocyn oedolyn Addysgwr yn y Cartref — a’r peth gorau amdano? Mae’n costio’r un faint â thocyn oedolyn arferol.

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw prynu tocyn oedolyn yn mynychu gyda phlentyn fel arfer ar eich ymweliad cyntaf, yna fe wnawn ni ychwanegu eich enw at ein cynllun tocyn blwyddyn, ac ar ôl hynny byddwch ond yn talu am docynnau eich plentyn pan yn ymweld â ni!


Mae’r tocyn oedolyn Addysgwr yn y Cartref yn ddilys am 12 mis o ddyddiad eich ymweliad cyntaf.
Nodwch fod y tocyn ond yn ddilys yn ystod sesiynau Addysgwyr yn y Cartref, ac am fynediad yn unig.

  Archebu tocynnau

 

Pryd?

Un prynhawn dydd Mercher y mis yn ystod y tymor ysgol

Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Dydd Sul
Dydd L
Dydd M
Dydd M
Dydd I
Dydd G
Dydd S
Dydd S
25
26
27
28
29
30
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
1
2
3
4
5
Events on Mer 18 Rhagfyr 2024
18 Rhag
Diwrnod Addysgwyr yn y Cartref
Mer 18 Rhagfyr 2024    
10:00 am–5:00 pm

dyddiadau ar gael

Gweithgareddau eraill yn Techniquest