Wrth eich bodd â gwyddoniaeth a gwaith Techniquest? Beth am fod yn Ffrind i ni, a rhannu ein hangerdd dros wyddoniaeth gydag eraill?

Rydyn ni’n rhoi cyfleoedd am ddim i’r disgyblion ysgol sydd eu hangen fwyaf, yn rhedeg prosiectau gyda grwpiau cymunedol ac yn rhannu gwybodaeth ar draws sectorau gwahanol, er mwyn taflu goleuni ar wyddoniaeth yng Nghymru.

Nid yw hyn yn bosib heb eich cefnogaeth chi.

Helpwch ni i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i fwynhau ac ymwneud â gwyddoniaeth, drwy ymuno â ni heddiw a bod yn Ffrind i Techniquest.

Am gyn lleied â £5 y mis byddwch yn derbyn y buddion canlynol:

Yn bwysicach fyth, byddwch yn cyfrannu at yr hyn a wnawn ac yn ein helpu ni i barhau ein gwaith yn addysgu ac yn ysbrydoli cenhedloedd y dyfodol. Diolch.

  Byddwch yn ffrind

  Tocyn Blynyddol

Dewiswch docyn blynyddol a datgloi mynediad diddiwedd i Techniquest, pryd bynnag y rydych chi eisiau ymweld â ni.

Mae ein tocynnau blynyddol yn cynnig gwerth anhygoel, ac yn cynnig nifer o gyfleoedd i archwilio, dysgu a chael hwyl. Gyda Tocyn Premiwm, gallwch chi ymweld ar unrhyw bryd ar dros y flwyddyn, tra bydd Tocyn Adegau Tawel yn galluogi mynediad ar ddiwrnodau tawelach a phenwythnosau tymor am lai.

  Darganfyddwch fwy

Cefnogwyr Corfforaethol

Nid unigolion yn unig sy’n buddio o berthynas glos gyda Techniquest — mae pecynnau ar gael i Gefnogwyr Corfforaethol hefyd.

  Darganfyddwch fwy