Gweler isod restr o swyddi gwag presennol a sut i ymgeisio.
Rydyn ni’n chwilio am weithiwr marchnata proffesiynol deinamig a brwdfrydig i ymuno â’n tîm, fydd yn gallu mynd â’n hymgyrchoedd i’r lefel nesaf. Byddwch yn angerddol ac yn wybodus am farchnata, a byddwch yn rhagori o ran llunio, gweithredu a gwerthuso ymgyrchoedd marchnata effeithiol sy’n gyrru gwerthiant, yn ennyn diddordeb cynulleidfaoedd newydd ac yn hyrwyddo profiadau cadarnhaol i ymwelwyr.
Fel ein Rheolwr Marchnata ac Ymgyrchoedd, byddwch yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o godi proffil Techniquest, cynyddu nifer yr ymwelwyr a chefnogi gwaith creu incwm ar draws holl feysydd gwaith y sefydliad: gan gynnwys gwerthu tocynnau, digwyddiadau a llogi ystafelloedd. Mae hon yn swydd ymarferol lle byddwch yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu ymgyrchoedd marchnata integredig, fydd yn cwmpasu dulliau digidol a thraddodiadol, hysbysebu, print, cyfryngau cymdeithasol organig a drwy dalu i hyrwyddo, cysylltiadau cyhoeddus, marchnata uniongyrchol a mwy.
Byddwch yn gyfarwydd â defnyddio data a dealltwriaeth o’r gynulleidfa i lywio’ch penderfyniadau marchnata, gan sicrhau bod yr ymgyrchoedd yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn darparu canlyniadau mesuradwy. Byddwch hefyd yn fedrus o ran ysgrifennu copi creadigol ac adrodd straeon, gyda dealltwriaeth gref o gysondeb brand a thôn llais.
Byddwch eisoes wedi gweithio mewn amgylchedd lle mae’r cwsmer yn ganolog i’ch dull o farchnata; yn ddelfrydol, naill ai mewn canolfan darganfod gwyddoniaeth, atyniad ymwelwyr, canolfan addysg neu sefydliad diwylliannol. Dim ots a oedd y cynulleidfaoedd dan sylw’n mynd i’r theatr, i gyngherddau neu i gasgliadau wedi’u curadu mewn amgueddfa, y peth allweddol yw eich bod eisoes yn deall yr egwyddor bod angen i’r ymwelydd fod wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud.
Bydd sgiliau rheoli prosiect rhagorol yn hanfodol, gan y byddwch yn gweithio ar sawl ymgyrch gyda nifer o derfynau amser ar yr un pryd, mewn amgylchedd lle mae pethau’n symud yn gyflym. Byddwch yn deall yr angen am gyflymdra i ymateb i gyfleoedd annisgwyl yn ogystal â dal ati i weithio drwy weithgareddau sydd wedi’u cynllunio ymlaen llaw, er mwyn cyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosib.
Os yw hyn yn swnio fel rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi, darllenwch y disgrifiad o’r swydd isod i gael gwybod mwy:
Os oes gennyt ti unrhyw gwestiynau penodol, peidiwch ag oedi i e-bostio ni.
Ydych chi’n hoff o bobl ac yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd sy’n wynebu cwsmeriaid? Ydych chi’n ymhyfrydu yn yr her o gael y gorau o bob aelod o’r timau o dan eich gofal? Ydych chi’n gyfathrebwr da gyda sgiliau trefnu cryf?
Rydyn ni’n chwilio am rywun sydd â hynny i gyd a mwy, a fyddai’n mwynhau bod yn rhan o dîm bach sy’n benderfynol o ddarparu profiad eithriadol i gwsmeriaid bob tro.
Techniquest, sydd wedi’i lleoli ar lan y dŵr ym Mae Caerdydd, yw’r Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth bwrpasol fwyaf hirsefydlog yng ngwledydd Prydain. Rydyn ni’n frwd dros ysbrydoli chwilfrydedd drwy Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, y Celfyddydau a Mathemateg (STEAM) ac rydyn ni’n croesawu dros 160,000 o ymwelwyr bob blwyddyn — cymysgedd o deuluoedd, ysgolion, oedolion annibynnol, grwpiau a chleientiaid corfforaethol.
Fel elusen addysgol ac atyniad poblogaidd i ymwelwyr, ein nod yw sicrhau bod ein holl ymwelwyr yn cael yr amser gorau posib gyda ni. Mae rhan annatod o’r profiad yna’n cael ei ddarparu gan ein timau blaen tŷ a’n cyflwynwyr gwyddoniaeth byw, ac mae angen iddyn nhw gynnig croeso cynnes a phrofiad diogel a di-drafferth i’n gwesteion, ac ymwneud yn rhagweithiol â’n holl gwsmeriaid: gan helpu i ddod â gwyddoniaeth yn fyw i bawb sy’n ymweld.
Fel Rheolwr ar Ddyletswydd, byddwch yn gyfrifol am oruchwylio’r timau a gwneud yn siŵr bod pawb yn cyrraedd safon gyson uchel o ran ymgysylltu â’n holl ymwelwyr.
Byddwch yn canolbwyntio ar y cwsmer ac yn mwynhau ymwneud â phobl ar eu gorau — a bydd gennych brofiad o ymwneud â nhw ar eu gwaethaf hefyd. Byddwch yn deall sut i reoli a thawelu sefyllfaoedd anodd, sut i ysbrydoli’ch tîm i fod ar eu gorau yn gyson, yn ogystal â bod yn hyderus wrth reoli logisteg, iechyd a diogelwch, a gweithrediadau blaen tŷ cyffredinol.
Byddwch yn angerddol am gyfathrebu gwyddoniaeth a thechnoleg, gyda safon uchel o sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar. Bydd gennych hefyd safon dda o addysg, gyda chymhwyster TGAU mewn Mathemateg a Saesneg ar Radd C neu uwch, a dealltwriaeth gadarn o weithio mewn atyniad i ymwelwyr. Bydd sgiliau arwain tîm a rheoli pobl ymhlith eich cryfderau mawr, ochr yn ochr â sgiliau trefnu rhagorol a sylw gofalus i fanylion.
Dyma flas o’r hyn rydyn ni’n ei wneud:
A llawer mwy!
Fel sefydliad cynhwysol, rydyn ni wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac i feithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol. Felly beth ydyn ni’n ei gynnig? Dyma gipolwg:
Os yw hyn yn swnio fel rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi, darllenwch y disgrifiad o’r swydd isod i gael gwybod mwy:
Os oes gennyt ti unrhyw gwestiynau penodol, peidiwch ag oedi i e-bostio ni.
Gweler ein Polisi Preifatrwydd Recriwtio.
Hysbysiadau