Hafan › Amdanom ni › Ein Bwrdd
Mae ein hymddiriedolwyr yn chwarae rhan hollbwysig yn sicrhau bod yr elusen yn diwallu anghenion ein cynulleidfa.
Mae’r Bwrdd yn goruchwylio rheolaeth a gweinyddiaeth Techniquest.
Fel Prif Swyddog Gweithredol Retail Merchandising Services (RMS) a sylfaenydd flex™, mae Daniel wedi defnyddio’i brofiad o arwain ar drawsnewidiad i ddatblygu a chryfhau gwaith ei ddiweddar dad. Sefydlodd tad Daniel, Peter O’Toole, RMS yn 2005, ar ôl gyrfa ym myd adwerthu, ond bu farw yn sydyn yn 2015.
Ers hynny mae Daniel wedi llywio’r busnes teuluol ac mae wedi buddsoddi’n sylweddol yn nhechnoleg, gyda flex™, platfform hynod lwyddiannus a ddefnyddir gan bob un o brif siopau’r DU ac Iwerddon. Fel cydnabyddiaeth o’i lwyddiannau, enillodd wobr ‘Cyfarwyddwr Newydd y Flwyddyn’ Sefydliad Cyfarwyddwyr y DU yn 2018.
Ar ôl graddio mewn Cemeg, etholwyd Daniel yn Arlywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bath yn 2009. Yn ystod ei gyfnod yno, roedd e’n gyfrifol am sefydliad llewyrchus a chanddi 15,000 o aelodau a throsiant blynyddol o £5m. Roedd e’n Gadeirydd y Bwrdd ac fe arweiniodd ar dîm o bum Is-gadeirydd, gan weithio’n agos gydag uwch-reolwyr i oruchwylio datblygiadau strategol. Fe’i hail-etholwyd am ail flwyddyn yn 2010.
Yn rhinwedd ei swydd fel partner yng nghwmni cyfraith masnachol, Acuity Law, mae Phil yn arbenigo mewn gwaith corfforaethol a masnachol, gyda diddordeb penodol mewn uno, caffaeliadau a thechnoleg. Mae e wedi gweithio gyda nifer o gwmnïau deillio a chwmnïau technoleg, yn ogystal â threulio cyfnod yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd yn eu tîm datblygu masnachol a throsglwyddo technoleg.
Mae Phil yn uchel ei barch yn y sector, ac yn cynghori ar werthiant a chaffaeliadau ar gyfer nifer o gwmnïau technoleg/TG, ac yn darparu cyngor arbenigol ar allanoli, gwe-letya a storfa cwmwl i ddefnyddwyr a chyflenwyr.
“Rydw i wrth fy modd yn ymuno â bwrdd Techniquest. Rydw i wedi ymweld â’r ganolfan sawl tro, a gan fod fy ngwraig yn athrawes dw i’n deall pa mor bwysig yw hi i hyrwyddo addysg STEM yn y gymuned. Rydw i’n edrych ymlaen at gydweithio ag aelodau eraill o’r Bwrdd i arwain Techniquest i’r lefel nesaf, a helpu’r sefydliad drwy’r cyfnod anodd hwn.”
Gyda dros dri degawd yn arwain ar welliannau perfformiad ar lefel uwch, gweithiodd Gerald gynt fel Cyfarwyddwr Masnach i Coca Cola yn y DU. Dychwelodd e nôl i Gymru ym 1998 a rhedodd uned fusnes Wales and West fel Rheolwr Gyfarwyddwr Rhanbarthol — gyda throsiant o dros £125 miliwn a 250 aelod o staff.
Roedd Gerald yn allweddol yn trefnu cytundebau nawdd o bwys megis y WRU, Stadiwm y Mileniwm, Wales Open, Cardiff Devils, Cardiff City FC a’r Cwpan Ryder — ochr yn ochr â rhaglenni llawr gwlad i gefnogi polisïau’r cwmnïau o hybu cyfranogiad. Mae Gerald yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd Seiclo Cymru a Chymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru ers 2018.
Hefyd, e yw sylfaenydd Go To Market Solutions Ltd, sy’n cynghori busnesau newydd, rhai sy’n edrych i dyfu, a busnesau mawr sydd eisiau gweithio’n fwy effeithlon.
Mae Gerald wastad wedi byw yng Nghaerdydd ac yn mwynhau’r mwyafrif o chwaraeon — ac mae’n feiciwr brwd iawn. Mae hefyd yn wirfoddolwr gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog ac yn Fentor Busnes Cymru.
Fel peiriannydd daw Rita â dros ugain mlynedd o brofiad o weithio yn y sector gyhoeddus, y sector breifat a’r trydydd sector, i Fwrdd Techniquest. Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd lle bu’n astudio Peirianneg Amgylcheddol, aeth Rita ymlaen i gwblhau MPhil ym Mhrifysgol Caergrawnt, a chychwynnodd ei gyrfa yn gweithio fel peiriannydd yn y diwydiant dŵr ac yna yn y diwydiant adeiladu.
Gweithiodd Rita ar ddatblygu a gweithredu polisi cynaliadwyedd yn Awdurdod Llundain Fwyaf, yna gyda Cynnal Cymru, wedyn gyda Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, i ddatblygu a llywio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Hi fu’n cynnal y drafodaeth genedlaethol ‘Y Gymru a Garem’ a fu’n rhan o sefydlu nodau llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Bu gynt yn Gyfarwyddwr elusen Size of Wales – sy’n cefnogi gweithredoedd cymunedol i warchod coedwigoedd trofannol – ac mae hi bellach yn Bennaeth ar Faterion Cyhoeddus y DU ar gyfer adrannau ‘Insulated Panels’ a ‘Insulation’ cwmni Kingspan.
Mae Rita hefyd yn ymddiriedolwr ar gyfer Canolfan Mileniwm Cymru ac yn Gyfarwyddwr Common Cause Foundation a Masnach Deg Cymru.
Gwyddonydd yw Amanna, a chanddi ystod eang o arbenigedd, sy’n cynnwys sŵoleg, firoleg a gwyddoniaeth amgylcheddol. Mae ganddi brofiad o weithio fel ymchwilydd prifysgol, ac mae hi wedi gweithio yn rhyngwladol mewn labordai gofal iechyd. Mae ganddi dros ddegawd o brofiad o weithio i gyrff cyhoeddus yn datblygu gwyddoniaeth sy’n cefnogi rheolaeth pysgodfeydd a monitro ansawdd môr a dŵr. Mae swyddi datblygu, cyfathrebu, cyhoeddi ac adwerthu hefyd yn rhan o’i gyrfa hyd yn hyn. Mae Amanna hefyd wedi gweithio yn y sector elusen, yn gweithio gyda ffoaduriaid ac yn rheoli cymorth cyntaf ac ymateb i argyfwng mewn digwyddiadau yn y gymuned.
Ar hyn o bryd mae Amanna yn gweithio fel uwch reolwr gyda’r gwasanaeth sifil. Yn ei gwaith mae hi’n dod ag arbenigwyr gwyddonol ynghyd i wella ar wneud penderfyniadau datblygu a gweithredu polisi. Mae hi’n credu’n gryf mai datblygu pobl sydd wrth wraidd llwyddiant unrhyw sefydliad, ac mae hi’n gweithio’n frwd dros wella amrywiaeth er mwyn gwella’r cyngor a’r polisïau a ddaw o’i hadran.
Mae Amanna yn fam i ddwy o ferched sydd yn yr ysgol gynradd ac mae hi wedi treulio oriau maith yn Techniquest – yn enwedig yn yr ardal ddŵr! Mae ganddi brofiad uniongyrchol o’r ffordd anhygoel y gall Techniquest cyflyno gwyddoniaeth i blant. Mae hi’n angerddol dros sicrhau bod gan bob plentyn, gan gynnwys y rheiny sydd ag anableddau dysgu ac anableddau corfforol, gyfleoedd i ymwneud ag addysg wyddonol.
Fel aelod o’r Bwrdd, mae Amanna yn gobeithio y bydd ei chefndir gwyddonol, ei hangerdd dros gynhwysiant a datblygu pobl, yn ogystal â’i hangerdd dros dechnoleg yn helpu Techniquest i barhau i fynd o nerth i nerth.
Yn rhinwedd ei swydd fel Rheolwr Rhanddeiliaid ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, mae Kelsey yn arbenigo mewn datblygu partneriaethau, CA + Ch, ymgysylltu â’r cyhoedd ac ymchwil sy’n ffocysu ar y defnyddiwr. Mae hi’n gyfrifol am ddatblygu cysylltiadau a chyfathrebu rhaglenni trafnidiaeth gyhoeddus eang ar draws Caerdydd, megis Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd a gwelliannau i Linell y Bae.
Bu gynt yn Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned yn Techniquest, ac yn Gydgysylltydd Cymunedol ar gyfer Sefydliad y Deillion Caerdydd. Mae ganddi brofiad eang o ddatblygu rhaglenni cynhwysol ar y cyd â’r gymuned.
Mae Kelsey yn angerddol dros rymuso menywod i ddilyn gyrfaoedd ym myd STEM. Yn dilyn ei phrofiad o gysgodi bwrdd cyfarwyddwyr Chwarae Teg drwy eu rhaglen ‘step to non-exec’ mae hi’n awyddus i weld menywod ifanc yn cael eu cynrychioli ar fyrddau. Creda Kelsey yn gryf bod ymgysylltu â merched ifanc drwy brofiadau addysgol a diwylliannol – megis cyfleoedd a gynigir gan Techniquest – yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod cydbwysedd rhwng y rhywiau mewn gweithluoedd STEM y dyfodol.
Mae gan Mark dros 35 mlynedd o brofiad fel cyfreithiwr masnachol, ble wnaeth fe cynorthwyo grwpiau i ddatrys dadleuon masnachol fel partner yn Eversheds LLP a Foot Anstey LLP. Mae gan Mark profiad arbennig o ddarparu prosiectau i’r ddiwedd. Wedi’i gamu nôl o’i rôl fel cyfreithiwr yn 2024, mae fe nawr yn eistedd fel Barnwr rhan-amser ar draws y Gylchdaith Dde-ddwyrain Cymru.
Roedd Mark yn ymddiriedolwr, aelod o’r Bwrdd a’r Cadeirydd yn y cyfamser o Theatr Iolo (sef cwmni sydd wedi bod ar y blaenllaw o greu theatr am blant bach a phobl ifanc yng Nghymru am dros 35 mlynedd). Mae Mark hefyd yn ymddiriedolwr ac yn eistedd ar Fwrdd Bywydau Creadigol (sef elusen sy’n ffocysu ar weithgareddau creadigol wedi’u harwain gan y gymuned a gwirfoddolwyr, ac yn gweithio i wella cyfleoedd pawb i fod yn greadigol).
Mae Mark yn fyw yng Nghaerdydd ac, ers camu nôl o’i yrfa, yn dysgu sut i warae ‘bridge’ a siarad Eidaleg (ond nid ar yr un tro!).
Mae gan Janice Lane dros 27 mlynedd o brofiad fel arweinwr etifeddiaeth ddiwylliannol yn gweithio mewn amgueddfeydd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn Lloegr, yr Alban a Chymru. Am 12 mlynedd, weithiodd hi fel Cyfarwyddwr Amgueddfa Cymru â’r cyfrifoldeb o bortffolios gwahanol, ac yn ffocysu ar brofiad yr ymwelwyr, etifeddiaeth, sgiliau technegol, mynediad a gweithredoedd, ac arwain y strategaeth cynaliadwyedd dros saith safle Amgueddfa Cymru.
Gweithiodd hi ar ddatblygiadau amgueddfeydd gan gynnwys Kelvingrove Museum and Art Gallery, Riverside Museum yng Nglasgow a Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yma yng Nghaerdydd. Fe wnes hi hefyd arwain y darpariad o arddangosion a rhaglenni dysgu ac ymrwymiad, gan weithio â phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol.
Dechreuodd hi fel athrawes ac mae hi’n angerddol am y rôl mae diwylliant ac etifeddiaeth yn chwarae o ran atynu pobl o bob oedran i STEAM ac mewn cefnogi dealltwriaeth wyddonol y cyhoedd.
Wnaeth Janice graddio o’r Getty Leadership Institute, mae hi’n aelod blaenorol o’r Bwrdd ICOM UK, ac oedd hi’n aelod o’r Network of European Museums â ffocws ar ddatblygiad y gynulleidfa, dysgu a chynaliadwyedd.
Mae Janice yn fyw yng Nghaerdydd ac yn gweithio nawr fel ymgynghorwr annibynnol a chyfarwyddwr di-weithredol.
Mae Rebecca yn ddarlithydd gwyddoniaeth feddygol mewn addysg uwch gyda chefndir cadarn yn iechyd, ac yn ymrwymedig i’w gwella addysg ac ymchwil o ran y meysydd STEM. Gyda blynyddoedd o brofiad mewn addysg, mae Rebecca wedi coleddu angerdd am helpu’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr yn y byd gwyddoniaeth.
Yn ogystal â gweithio fel darlithydd, mae Rebecca yn gwasanaethu fel cadeirydd o Research Ethics and Health and Safety, ac yn sicrhau bod pob agwedd o’u hymchwil yn cael eu cynnal ag uniondeb, safonau diogelwch, rheolau a deddfwriaethau sy’n cynnig ymchwil cyfrifol ac effeithiol.
Fel ymddiriedolwr am Techniquest, mae Rebecca yn defnyddio ei chefndir hir i’w argymell camau gwyddonol arloesol, cefnogi gweithwyr o amrywiaeth o gefndiroedd yn STEM, a gyrru ymrwymiad yn y gymuned. Fel cefnogwr cryf o waith allanol, mae Rebecca yn ffocysu’n wir ar gryfhau cymunedau trwy ddarparu mynediad i addysg ac adnoddau STEM. Trwy weithdai, rhaglenni cynghorwyr, a phartneriaethau yn y gymuned, mae hi eisiau ysbrydoli pobl sydd heb wasanaeth digonol, ac arloesi’r ffordd i wyddoniaeth y dyfodol trwy gefnogi’r wyddoniaeth heddiw.