Byddwch yn gatalydd am newidiad a helpwch ni i ysbrydoli chwilfrydedd mewn ysgolion yng Nghymru.
Mae’r Cynllun Catalydd yn galluogi i fusnesau cefnogi addysg STEM trwy ariannu teithiau ysgol. Yn Techniquest, rydym ni’n croesawi filoedd o ddisgyblion ysgol pob blwyddyn, ond am nifer o’r plant, yn enwedig rheini o ardaloedd amddifad o’r Cymoedd De Cymru a rhannau o Gaerdydd a Chasnewydd, efallai mai taith ysgol yw’r unig gyfle sydd ganddyn nhw i’w hymweld â Techniquest.
Mae nifer o’r disgyblion yn wynebu rhwystron sylweddol i addysg STEM, a gyda chyllidebau dyn, mae ysgolion gwastad yn brwydro i flaenori dysgu tu allan i’r dosbarth. Dyma ble gall eich busnes wneud gwahaniaeth. Trwy ariannu teithiau addysgol — gan gynnwys costau trafnidiaeth, sydd wastad yn rhy anodd i’r ysgol talu — gallwch chi helpu sicrhau bod mwy o blant yn cael mynediad i brofiadau STEM, sy’n agor drysodd i gyfleoedd newydd a dyfodol mwy sicr fel canlyniad.
Gall disgyblion profi addysg rhyngweithiol â ni trwy dros 100 o arddangosion cydadweithiol, ochr yn ochr â sioeau wyddoniaeth fyw, ‘star tours’ yn y Planetariwm a gweithdai yn y Labordy KLA.
Wnaeth GOS Engineering ariannu tair taith i’n canolfan yn ddiweddar. Cafodd mwy na 180 o ddisgyblion ym Mlaenafon y cyfle i dreulio dydd yn Techniquest o ganlyniad i’w cefnogaeth hael.
Rydym ni wastad yn ddiolchgar iawn i’r Ymddiriedolaethau a Sefydliadau ardderchog sy’n cefnogi ni i drefnu teithiau ysgol am ddim i ni pob blwyddyn — fel y Waterloo Foundation, yr Edina Trust a’r ScottishPower Foundation i enwi rhai — ond mae’r angen yn fwy na allwn ni gwrdd â’r cronfeydd hyn.
Os ydych chi’n credu gall eich busnes cefnogi ysgol yn eich ardal leol, a chalonogi disgyblion i ddilyn llwybr STEM am eu gyrfaoedd yn y dyfodol, cysylltwch â’n Pennaeth Dysgu, Andrea Meyrick i ddarganfod mwy.
…i’r cefnogwyr sydd wedi galluogi teithiau ysgol i ni dros y blynyddoedd diwethaf:
Waterloo Foundation
Edina Trust
ScottishPower Foundation
Hysbysiadau