Mae modd argraffu’r map dwyieithog yma o Techniquest, er mwyn ymgyfarwyddo cyn eich ymweliad:
Mae gennym ni daith rithiol 3D ar gael. Cyfle i ddarganfod mwy am ein canolfan cyn eich ymweliad.
Agorwch y daith mewn ffenestr newydd.
Gyda diolch i Picture It 360.
Mae’r llawr yn wastad drwy gydol yr arddangosfa, heblaw am un ramp, ac mae lifft i’r llawr cyntaf.
Mae ein Planetariwm yn ofod clyd, gydag 1 lle ar gyfer cadair olwyn bob sioe. Gofynnwn i chi archebu ar-lein ymlaen llaw, gan ddethol y tocyn defnyddiwr cadair olwyn.
Mae yna le i 2 ddefnyddiwr cadair olwyn. Mae yna hefyd le i ddefnyddwyr cadair olwyn symud i seddi safonol. Ond byddwch yn ymwybodol bod o leiaf un neu ddau ris i gyrraedd y seddi hyn.
Gallwn ni ddarparu bagiau synhwyraidd i ymwelwyr sy’n teimlo y byddai hyn yn gwella ar eu mwynhad o brofiad Techniquest.
Gallwch ofyn am fag wrth y ddesg flaen ar ôl i chi gyrraedd. Gallwch dalu blaendal o £20 (yn ddibynnol ar argaeledd) a chymryd y bag gyda chi o amgylch y ganolfan.
Mae bob bag yn cynnwys:
Os fyddwch yn defnyddio un o’r bagiau, byddem yn ddiolchgar iawn o’ch adborth ar ddiwedd eich ymweliad!
Wrth archebu tocyn dewiswch docyn Gofalwr Hanfodol hefyd. Mae’n rhaid i docyn gofalwr fynd gyda thocyn consesiwn. Dewch â math o dystiolaeth adnabod gyda chi fel y gallwn ni brosesu eich tocyn mynediad.
Gan mai dim ond un gofod parcio hygyrch sydd gennym ni ar y safle, gofynnwn yn garedig i chi ddefnyddio’r meysydd parcio a restrir isod, os yn bosib.
Os nag ydy hyn yn ymarferol i chi, ffoniwch ein tîm cyn gynted â phosib cyn eich ymweliad, ar 029 2047 5475* neu e-bostiwch ni ar [email protected] fel y gallwn ni wirio os yw’r gofod ar gael yn ystod eich ymweliad. Os yw’r gofod ar gael gallwn ni ei gadw ar eich cyfer a rhoi gwybod beth yw’r broses ar gyfer ei ddefnyddio ar y diwrnod.
Dyma ein cyfeirnod what3words ar gyfer ein mynedfa newydd ///fairly.occupy.trucks.
Mae’n bosib y gallwn awgrymu opsiynau parcio eraill os wnewch chi gysylltu â ni cyn archebu: ffoniwch ni ar 029 2047 5475 neu e-bostiwch [email protected].
*Llun-Gwener 9am-5pm (opsiwn peiriant ateb ar gael)
Mae ardaloedd arddangos Techniquest yn gallu bod yn swnllyd, yn enwedig yn ystod gwyliau ysgol.
Rydym yn cynnal Sesiynau Hamddenol ar ddydd Sul cyntaf pob mis.
Os ydych yn dewis tocyn 10am neu 11am, fe welwch y bydd ein model gweithredu arferol yn cael ei droi lawr ychydig i ganiatáu i’n gwesteion mwynhau profiad mwy hamddenol am fore dydd Sul unwaith y mis.
Os does dim modd fynychu sesiwn hamddenol, rydyn ni’n argymell archebu slot ar ddiwedd y prynhawn ar ddyddiau’r wythnos yn ystod y tymor ysgol, neu sesiwn gyntaf y dydd am 10am ar benwythnosau, a hynny yn ystod y tymor ysgol. Mae’r adegau hyn yn tueddu i fod yn dawelach.
Mae gennym ni ystafell fechan ar y llawr gwaelod sy’n cael ei defnyddio ar gyfer llawer o resymau gwahanol: bwydo ar y fron, gweddïo, neu i adael prysurdeb yr arddangosfa os ydych chi neu aelod o’r grŵp yn teimlo bod angen seibiant.
Cymerwch olwg ar y map, y mae modd ei argraffu, er mwyn gweld sut mae cyrraedd y Pod.
Mae nifer fechan o arddangosion Techniquest yn anaddas i ymwelwyr sydd â rheoliadur neu ddyfais meddygol sydd wedi’i mewnblannu. Mae’r arddangosion hyn yn cynnwys y symbol (ar y dde) ar eu label.
Am fwy o wybodaeth ar ein hygyrchedd a chyfleusterau, darllenwch ein Datganiad Hygyrchedd.