Techniquest

Roedd rheoli labordy llawn cemegion cyffrous, tanau Bunsen ac offer diogelwch yn rhan fach o’r rôl ddynamig wnaeth Ffion Lewis gweithio yn Techniquest am ddwy flynedd wych.

Pan oedd hi ddim yn sicrhau bod ein Labordy KLA mewn cyflwr da, roedd Ffion yn dylunio ac yn darparu gweithdai rhyngweithiol am ein hymwelwyr; o Santa’s Spy Squad i DNA Decoded, cafodd hi ran fawr mewn pob gweithdy newydd rydym ni’n cynnig trwy’r flwyddyn.

A nawr — gyda chynllun i deithio’r byd — mae Ffion yn dweud hwyl fawr i Techniquest, ac rydym ni mor ddiolchgar am ei gwaith dros y blynyddoedd. Ond, cyn iddi hi fynd, cymrodd ni’n cyfle i eistedd lawr gyda hi ac ystyried sut wnaeth yr amser fynd:

Gallet ti rhannu eich stori o ran Techniquest — sut wnaeth e ddechrau, a sut wnathet ti dechrau gweithio fel Rheolwr i’r Labordy?

Dechreuais gweithio yn Techniquest yn mis Mawrth 2021 fel ‘Swyddog Ymgysylltu ag Ymwelwyr’ (Visitor Engagement Officer/VEO).

Fe wnes i aros yn y swydd yma am dros blwyddyn a hanner (a symud i VEO level 2 yn dilyn symudiadau o fewn y canolfan) ac yna yn mis Hydref 2022 fe wnes i adael ar gyfer swydd newydd rhywle arall. Fe wnes i sylwi bod y swydd newydd ddim yn addas ar gyfer fy sgiliau a diddordebau felly yn mis Rhagfyr 2022 fe wnes i ddychwelyd i Techniquest i fod yn rheolwr i’r labordy ac wedi bod yn y swydd yma ers hynny!

Beth wnaeth denu to tuag at y swydd Rheolwr i’r Labordy yn penodol?

Y peth cyntaf nath denu fi mewn i wneud cais am swydd yn Techniquest oedd atgofion ymweld â Techniquest pan o ni’n disgybl ysgol gynradd. Cyn ceisio am swydd yn gynnar yn 2021, ro’n i ddim yn gwybod bod Techniquest dal yn rhedeg, felly roedd meddwl am cael gweithio bob dydd yn lle mor nostalgic yn ddeniadol iawn.

Yn ôl y rôl ei hunan, y creadigrwydd i ddatblygu ac i gyflwyno sioeau a fideos gwyddoniaeth, ac i gael gwneud arbrofion — gan fy mod i’n mwynhau gwyddoniaeth, yn enwedig cemeg yn ysgol, a bydde cael gwneud hyn i gyd tra’n rhoi’r un atgofion a chyffro i blant a theuluoedd yn yr un lle yn wych!

Beth yw’ch hoff atgof o’ch amser yn Techniquest?

Mae’n anodd dewis ond un hoff atgof o’r bron 4 blwyddyn dwethaf! Ond un digwyddiad sy’n sefyll allan oedd pan oeddwn yn ffilmio ar gyfer ein sioeau digidol, yn enwedig y taith deinosoriaid.

Roedd yn rhaid i ni ffilmio i ffwrdd o’r canolfan yn Rhoose Point, gwario llawer o amser yn y theatre wyddoniaeth yn gwneud arbrofion, o ni just yn cael shwd gwmaint o hwyl yn a gwnaeth y mwyafrif o’r amser cael ei treulio’n chwerthin, siwr o fod gyda digon o adnoddau i wneud fideo o bloopers! Atgof arall byddai’r diwrnod cyntaf a wnes i cyflwyno sioe gwyddoniaeth ‘Extreme Earth’, a oedd y sioe theatr cyntaf a wnes i ddatblygu o dechrau i diwedd a un o’n hoff pynciau.

Pan rydych yn paratoi am weithdy newydd yn y Labordy, beth dydy’r cyhoedd ddim yn weld?

Mae bob gweithdy’n dechrau o syniad. Gall fod yn syniad am arbrawf a fydd angen ei paru gyda thema, neu efallai thema yw’r syniad cychwynol, a fydd angen datblygu arbrofion i fynd gyda’r thema hyny. O’r pwynt yma, mae angen prynnu’r offer sydd angen ar bob arbrawf.

Mae’r arbrofion yna’n cael ei profi am dibynadwyedd, diogelwch, hygyrchedd ac yna addasrwydd oedran ac asesiad risg. Bydd gan bob gweithdy cyflwyniad i fynd gyda’r thema, rhestr offer llawn, rhestr gosod ac ailosod, sgript a layout llawn ar gyfer hyfforddi a cysondeb. Pan mae’r gweithdy wedi gorffen cael ei datblygu, dyw hynny ddim yn meddwl mae’r gwaith caled ar ben… mae na dyddiau wedi bod lle mae 90 plentyn wedi cymryd rhan mewn gweithdy, felly mae’n gallu bod yn brysur iawn.

Ar ôl pob gweithdy, mae yna angen clirio, ail lenwi ac ailosod yr offer i gyd, ac yna ar ôl gorffen, bydd rhaid golchi popeth, ac ailosod am y diwrnod nesaf.

Pa sgiliau datblygodd ti yn ystod dy amser yn rheoli’r Labordy, ac wyt ti wedi dysgu unrhyw gwersi werthfawr?

Trwy gydol fy amser yn Techniquest, dwi wedi uwchsgilio mewn rheoli prosiectau tra’n datblygu nifer o sioeau, gweithdai a fideos digidol. Roedd yn rhaid i mi ddysgu sut i gyfathrebu syniadau a damcaniaethau gwyddoniaeth cymhleth i wahanol oedrannau er mwyn iddynt deall, ac mae’r sgil yma wedi cryfhau dros y 3 blynedd dwethaf ac mae’n her dwi wedi mwynhau ac fe fydd yn sicr yn defnyddiol yn y dyfodol.

Mae iechyd a diogelwch wedi bod yn un o prif cyfrifoldebau’r labordy, felly o ganlyniad, dwi’n gyfarwydd iawn â chreu asesiadau risg, cymorth cyntaf a COSHH ar gyfer defnyddio cemegau, sgiliau a fydd yn siwr yn defnyddiol yn y dyfodol.

Beth sy’ nesaf i ti?

Yn mis Ionawr, byddai’n mynd i Awstralia ac i Seland Newydd ar antur. Byddaf siwr o fod i ffwrdd am 6 i 9 mis ond sdim tocyn dychwelyd da fi eto, felly gewn ni weld. Pan byddai nol, dwi’n credu byddai’n edrych am swydd lle fyddai’n gweithio tu allan, efallai’n gweithio i cwmni neu sefydliad amgylcheddol yn gwneud gwaith maes… ond bydd Techniquest bob amser yn dal lle yn fy nghalon felly efallai, rhyw ddydd, byddwch yn fy ngweld i eto!

I orffen, dyma rhai cwestiynau gyflym: beth yw eich hoff ffilm y Nadolig?

Santa Claus: The Movie — ond mae gen i ‘soft spot’ am ‘Nadolig yng Nghwm Rhyd y Chwadods’.

Gaeaf neu’r Haf?

Yr Haf.

Bioleg, cemeg neu ffiseg?

Ffiseg.

Llaeth neu’r bag te yn gyntaf?

Y bag te, pob tro!

Eich hoff arddangosyn yn Techniquest?

Blwch Tywod Rhyngweithiol.

Yr Ardal Retro neu’r Ardal ‘Low Light’?

Yr Ardal Retro!

Beth yw dy hoff peth i wneud ym Mae Caerdydd tu fas i Techniquest?

Cerdded i’r gwlypdiroedd a bwydo’r hwyiaid.

Rydym ni eisiau dweud diolch o galon eto i Ffion am ei gwaith ardderchog yn y Labordy, ac am gwella’r profiad o bob ymwelwyr a wnaeth joio gweithdy ar eu hymweliadau.