Ar 12 Tachwedd, wnaethom ni groesawu arddangosfa cerbydau trydanol — wedi’i drefnu gan GreenFleet mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru — a wnaeth galluogi’r cyhoedd i brofi gyrru’r ‘EVs’ diweddaraf o gwmpas Bae Caerdydd.
Yn ogystal â chymryd y cerbydau am dro, cafodd gweithdy ei ddal am ddim ar ein llawr arddangosion gyda phanel o arbenigwyr EV — yn cynnwys Chris a Julie Ramsey, a chwblhaodd taith 17,000 o filltir o Begwn y Gogledd i Begwn y Dde mewn cerbyd trydanol.
Ceisiodd y panel gwella dealltwriaeth yr ymwelwyr o ran y manteision amgylcheddol o yrru cerbyd trydanol a chafodd ei gwblhau gan Jonathan Jenkins o Motability, Paul Bevan o EVA Cymru, a Kevin Booker, sy’n dal record y byd am y daith hiraf mewn cerbyd trydanol (rhyw 570 milltir).
Dywedodd Ursula Perry o GreenFleet: “These types of events are important because it’s all about raising awareness about sustainable transport.
“We find that people are moving from range anxiety to change anxiety and it’s just getting them used to the fact that change is a collaborative thing that we all need to do.”
Wedi’u lleoli o gwmpas prif fynedfa Techniquest oedd EVs o’r safon uchaf — roedd BMWs a Teslas yn rhannu’r safle â faniau gwaith a beiciau modur trydanol o Maeving.
A wnaeth y beiciau modur diddori cyn-chwaraewr Cardiff Blues Josh Navidi a Dirprwy Prif Weinidog Cymru Huw Irranca-Davies, pan ymwelon nhw â’r arddangosfa i ddangos cefnogaeth i’r diwydiant ac, wrth gwrs, i gymryd y beiciau am dro o gwmpas y Bae.
Ar ôl parcio ei Maeving RM1 tu allan u Techniquest, dywedodd Irranca-Davies: “Rhan o fy rôl i yw sicrhau bod Cymru’n chwarae ei rhan wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd.
“Mae cerbydau trydan yn rhan (ond nid y cyfan) o’r ateb, ochr yn ochr â llai o geir ar ein ffyrdd, a mwy ohonom yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio lle gallwn.
“Ond i lawer, rwy’n cydnabod nad yw hyn bob amser yn ymarferol, yn enwedig gan fod rhan fawr o’n gwlad yn wledig. Dyna pam mae angen i ni weld symudiad cyflym tuag at dechnolegau dim allyriadau mewn cerbydau ochr yn ochr â buddsoddiad parhaus yn ein trafnidiaeth gyhoeddus a’n seilwaith teithio llesol.”
A, fel rhan o ernes y sioe modur i droi’r cyhoedd i gerbydau trydanol, cafodd ein hymwelwyr y cyfle i’w ennill £250 a cherbyd modur am ddim am wythnos, a chafodd rhif un ymwelwr lwcus, Barbara, ei dynnu.