Techniquest

Ar y 22ain and 23ain o Fehefin, heidiwch filoedd o ymwelwyr i Gastell Caerdydd i ddathlu pen blwydd Pride Cymru a mwynhau bwyd a cherddoriaeth wych.

Ac ar draws y ddau ddiwrnod, wnaethom ni sefydlu ein bwth yn yr Ardal Teulu a rhedeg arbrofion lliwgar i’r ymwelwyr oedd angen amser egwyl o’r dawnsio.

Wnaeth plant ac oedolion defnyddio magnetau i beintio dyluniadau eu hun ar ein canfas — a bydd yn cael ei arddangos yn ein safle — chwythu swigod enfawr, a dangos eu cefnogaeth gyda ein bathodynnau Pride.

Yn ogystal â hynny, wnaeth ymwelwyr mwynhau perfformiadau o Vengaboys ar ddydd Sadwrn, tra gwnaeth Jake Spears o’r Scissor Sisters cymryd y prif llwyfan ar ddydd Sul.

Cafodd ein bwth ei redeg gan ein gweithredwr ymgysylltu’r gymuned a thri chyflwynwyr gwyddoniaeth, ac mae’n dynodi’r trydydd tro rydym ni wedi cael presenoldeb yn Pride Cymru.

Heb y gefnogaeth rydym ni’n teimlo o’r gymuned LGBTQ+ — o’r rheini sy’n cynrychioli ni yn y safle i’r bobl sy’n mwynhau’r safle trwy’r flwyddyn — ni fyddem ni ble yr ydym ni heddiw.

Rydym ni eisiau ymestyn diolch o galon i Pride Cymru am groesawu ni nôl i’w digwyddiad arbennig, a hefyd i bawb wnaeth ymweld â’n bwth dros y penwythnos!