Ymunwch â ni am benwythnos llawn hwyl, ffeithiau gwych a gwyddoniaeth rhyngweithiol ar thema’r amgylchedd, i gyd am ddim.
Bydd Archwiliwch ein planed — Explore our planet, mewn partneriaeth â’r UKRI Natural Environment Research Council, yn rhoi lle amlwg i atyniadau rhyngweithiol a sgwrsiau personol gan gwyddonwyr amgylcheddol gorau’r DU.
Gall ymwelwyr cael cip olwg a chymryd rhan, trwy cwrdd â’r gwyddonwyr sydd yn cyflwyno ymchwil amgylcheddol byd-eang, a dysgu sut gallwn ni i gyd byw’n fwy cynaliadwy ar y Ddaear.
Dyma’r darlithiau bydd ar gael ar y dyddiau:
Gallwch chi hefyd ymweld â’r Llong Ymchwil Brenhinol, The James Cook, ym Mae Caerdydd — trwy un o’r sefydliadau eigioneg gorau’r byd, y National Oceanography Centre (NOC).
Mae hyn yn cyfle unigryw i weld sut mae’n teimlo i weithio ar llong ymchwil go iawn, ble mae’n aml i wyddonwyr a thecnolegwyr gweithio ar y môr am wythnosau ar y tro, yn cludo ymchwil hanfodol o dan amodau anodd. Nodwch bod rhai cyfyngiadau yn perthnasol.
Am y digwyddiad arbennig hon ar ddydd Gwener 18 Hydref, mae lleoedd am ddim wedi’u cadw am ysgolion sydd yn cwrdd â meini prawf penodol, a byddwn ni’n cysylltu ag ysgolion cymwys dros yr wythnosau nesaf.
Gall y cyhoedd archebu tocynnau am ddim i Techniquest, The James Cook, neu’r ddau am ddydd Sadwrn 19 neu dydd Sul 20 Hydref. Fodd bynnag, nodwch bod lleoedd i’r ymweliadau yn cyfyngedig a bydd tocynnau ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.
Cyflogwch i’n cylchlythyr electronig i fod y cyntaf i wybod pryd mae’r tocynnau yn cael eu rhyddhau.
Mae teithiau o gwmpas y llong yn cynnwys nifer o risiau serth, coridorau cul a dringo dros gamau uchel.
Mae’n rhaid i unrhyw blentyn sydd 0–7 mlwydd oed sy’n ymweld â’r James Cook mynd gydag oedolyn, gyda chymhareb o 1 plentyn i 1 oedolyn, ac unrhyw blentyn sydd 8–15 mlwydd oed mynd gyda chymhareb o 2 plentyn i 1 oedolyn.
Ni ellir darparu ar gyfer bygis na phramiau ar yr ymweliadau, a rhaid gosod unrhyw faban mewn breichiau mewn cludwr (naill ai wynebu’r blaen neu gefn) i ganiatáu mynediad di-dwylo i’r rhiant neu ofalwr.
Mae NOC yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i’r llong, os ydynt yn teimlo nad yw’n ddiogel gwneud hynny.
18 Hydref (ysgolion), 19–20 Hydref (y cyhoedd)
dyddiadau ar gael