Techniquest

Wnaeth ein gweithredwr ymgysylltiad y gymuned, Ana-Mah, cymryd y safle ar daith ym mis Mai, wrth iddi hi arwain gweithdai wyddoniaeth dros dri diwrnod yn yr hanner tymor.

Mae CREST yn rhaglen genedlaethol — wedi’i redeg gan y British Science Association — sy’n gwobrwyo disgyblion sy’n dangos diddordeb yn y pynciau STEM ac yn anelu at gyfoethogi astudiaeth y genhedlaeth nesaf.

Cyflawnodd mwy na 20 disgyblion — ffoaduriaid rhwng 7–11 mlwydd oed — wyth arbrawf gwahanol yn Oasis Cardiff, sef canolfan cymdeithasol yn Sblot.

Ar ddydd Mawrth, wnaethant nhw ddysgu am gywirdeb adeileddol, wrth iddyn nhw adeiladu pont mas o bapur oedd yn gallu dal y pwysau o offer dosbarth gwahanol.

Roedd y ffocws ar wyddoniaeth fforensig ar ddydd Mercher, a wnaethant nhw drafod dinosoriaid a’u marwolaeth yn y prynhawn.

Ymunodd Joanne Watkins — gwyddonwyr biofeddygol o’r Pathogen Genomics Unit (PenGU), Iechyd Cyhoeddus Cymru — â’r grŵp hefyd, i drafod ei swydd a’i waith i ymchwilio’r feirws COVID-19.

I orffen, dilynodd y plant bomiau bath i gymryd gartref gyda’u tystysgrif CREST i ddynodi eu cyfranogiad a gwybodaeth newydd.

Rydym ni eisiau estyn diolch mawr i Oasis am adael i ni gynnal y gweithdai yn ei safle, a CREST am gynnig y tystysgrifau i’r disgyblion.