Paratowch am amser hynod flasus yn Techniquest!
Ymunwch â ni am brynhawn gastronomegol wrth i ni greosawu arbenigwyr o FareShare Cymru, y Royal Society of Chemistry, a’r Trussell Trust i’n helpu ni i archwilio meysydd bwyd a diod.
Byddwch yn cael y cyfle i ddysgu popeth am y wyddoniaeth tu ôl i’n hoff flasau ni, a’r cemeg sy’n trawsnewid cynhwysion i blatiau o fwyd meistrolgar.
Os ydych chi eisiau ymchwilio’n dyfnach i mewn i wyddoniaeth er eich diddordeb eich hun, neu wneud argraff ar yr wyrion y tro nesaf y byddwch yn dod â nhw ar daith atom, bydd gennych ddigon o amser i roi cynnig ar ein holl arddangosion rhyngweithiol ar y prynhawn yma sy’n ymroddedig i oedolion hŷn.
Bydd FareShare Cymru yn siarad am eu cais i anrhegu bwyd dros ben i elusennau lleol sydd yn bwydo pobl sydd eu hangen.
Camwch mewn i’n Theatr Wyddoniaeth i weld arbrofion arbennig yn defnyddio bwyd a diod yn ein sioe “Science en Flambé” — efallai byddant yn weld watermelon yn ffrwydro!
Gallwch hyd yn oed cymryd rhan yn ein Labordy KLA a rhoi cynnig ar rai arbrofion drosoch eich hun gyda’n gweithdai wedi’i arwain gan yr Royal Society of Chemistry.
A ni fydd yn gostio llawer: am £5 yn unig, yn ogystal â chael hyd at dair awr i archwilio’r safle a chymryd rhan yn y gweithgareddau ychwanegol hynny, mae eich tocyn hefyd yn cynnwys diod yn Coffee Mania drws nesaf — a byddwch yn ennill digonedd o wybodaeth o’r profiad hefyd.
Wedi’i ffilmio yn y Caffi Wyddoniaeth Dros-50, Mawrth 2024
Dydd Mawrth 25 o Fehefin
dyddiadau ar gael