Techniquest

Pecyn buddion cyfredol

Gall y buddion sydd ar gael i aelodau craidd tîm Techniquest amrywio o bryd i’w gilydd, ond ar hyn o bryd mae’r pecyn o fuddion yn cynnwys:

  • Gweithio Hyblyg / Hybrid i staff nad oes gofyn iddynt fod ar y safle drwy’r amser yn rhinwedd eu swydd.
  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â Gwyliau Banc statudol
  • 1 diwrnod o wyliau ychwanegol ar gyfer eich pen-blwydd
  • 1 diwrnod o wyliau ychwanegol i’w ddefnyddio at ddiben ‘Diwrnod Lles’10 tocyn am ddim bob blwyddyn i deulu a ffrindiau ymweld â Techniquest
  • Basged yn rhodd bob blwyddyn
  • Taleb cynllun gofal plant
  • Gostyngiad ar bris aelodaeth Simply Gym
  • Gostyngiad ar bris aelodaeth Costco Wholesale
  • Mynediad at gerdyn debyd Elusen sy’n darparu gostyngiadau ar ddetholiad o nwyddau a gwasanaethau
  • Mynediad i Raglen Gymorth i Gyflogeion
  • Cynllun beicio i’r gwaith
  • Cynllun arian ysbytai Cymru
  • Cyfraniad pensiwn Cyflogwr
  • Budd-daliad marwolaeth mewn swydd

Ein Gwerthoedd

Rydyn ni’n dilyn fframwaith o ymddygiad a gwerthoedd sy’n siapio gwaith Techniquest a’n ffordd o weithio.

Fel tîm rydyn ni’n cydnabod mor bwysig yw hi i ddeall yr hyn sy’n ddisgwyliedig ohonom ni, ac rydyn ni’n ceisio cefnogi ein gilydd bob amser. Rydyn ni’n cydweithio ar draws adrannau er mwyn cyflawni’r gorau ar gyfer pawb sy’n ymweld â’r ganolfan neu sy’n ymwneud â ni mewn ffyrdd eraill.

Mae’r diagram isod yn dangos ein gwerthoedd craidd. Defnyddiwn y rhain yn ein proses recriwtio ac wrth werthuso gwaith ein staff:

Ein gwerthoedd a’n hymddygiad disgwyliedig: grymuso, arloesol, cynhwysol, cydweithredol, ysbrydoledig, rhagorol

Er mwyn rhoi’r profiad gorau i’n hymwelwyr a phawb sy’n ymwneud â ni, rydyn ni’n dibynnu ar dîm sy’n gosod safonau uchel. Mae’r buddion i’n staff, sy’n dod â gwyddoniaeth yn fyw i bobl o bob cefndir, yn sylweddol hefyd.

Rydyn ni’n dîm bychan sy’n ceisio gwneud gwaith ysbrydoledig, a gwyddwn bod cydweithio a chefnogi ein gilydd yn hollbwysig.

Ansawdd, amrywiaeth a chynhwysiad

Mae Techniquest wedi ymrwymo’n llwyr i egwyddorion cyfle cyfartal ym maes cyflogaeth. Mae ansawdd, amrywiaeth a chynhwysiant (A, A + C) wrth galon ein sefydliad. Rydym yn rhagweithiol wrth sicrhau bod ein holl weithwyr yn cael eu gwerthfawrogi a’u trin ag urddas a pharch. Rydyn ni eisiau i bawb gyrraedd eu potensial.

Cydraddoldeb: sicrhau bod gan bawb yr un cyfle i gyflawni eu potensial, yn rhydd o wahaniaethu.

Amrywiaeth: dathlu gwahaniaethau unigolion ein gweithlu.

Cynhwysiant: sicrhau bod pawb yn teimlo’n gyfforddus i fod yn nhw eu hunain yn y gwaith ac yn teimlo gwerth eu cyfraniad.

Mae cydraddoldeb o ran cyfleoedd, gwerthfawrogi amrywiaeth a chydymffurfio â’r gyfraith o fudd i bawb sy’n gweithio yn Techniquest. Mae’n datblygu sgiliau unigolion a gallu pob aelod ein tîm.

Rheolwyr Techniquest sy’n gyfrifol am wahardd gwahaniaethu a sicrhau cyfle cyfartal, ond mae gan unigolion ar bob lefel gyfrifoldeb i ymdrin ag eraill gydag urddas a pharch. Mae ymrwymiad pob aelod o’n staff i anrhydeddu a gweithredu’r polisi yma yn holl bwysig wrth i ni wahardd gwahaniaethu a hybu cydraddoldeb ledled Techniquest.

Mae’n gymwys i bob elfen o gyflogaeth, gan gynnwys recriwtio, dethol, hyfforddi, datblygu gyrfa a chael dyrchafiad. Rydyn ni’n monitro’r elfennau hyn ac yn addasu polisïau os oes angen, er mwyn sicrhau nad oes gwahaniaethu annheg nac anghyfreithlon yn bodoli – boed hynny’n fwriadol neu’n anfwriadol, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn amlwg neu’n gudd.

Mae’r tîm rheoli yn bennaf gyfrifol am ddiwallu’r amcanion hyn, a hynny drwy:

  • Sicrhau bod arferion recriwtio yn anwahaniaethol
  • Meithrin diwylliant sy’n gwrthod caniatáu unrhyw ymgais i ymarfer gwahaniaethu anghyfreithlon.

Gall bawb sy’n gweithio ar ran Techniquest gyfrannu drwy:

  • Gofleidio ein diwylliant a thrin pawb â pharch cyfartal
  • Bod yn barod i herio unrhyw un sy’n ceisio ymarfer gwahaniaethu anghyfreithlon
  • Rhoi gwybod i’r tîm rheoli am unrhyw weithredoedd gwahaniaethol.

Recriwtio

Byddwn yn sicrhau bod prosesau recriwtio, dethol, hyfforddi, datblygu a dyrchafu yn gwarchod nad oes unrhyw ymgeisydd swydd, gyflogai neu weithiwr yn derbyn triniaeth lai ffafriol oherwydd nodwedd warchodedig sy’n gynwysedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010, sef:

  • Hil (yn cynnwys lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol a chast)
  • Crefydd neu Gred
  • Anabledd
  • Rhyw
  • Cyfeiriadedd Rhywiol
  • Ailbennu Rhywedd
  • Priodas neu Bartneriaeth Sifil
  • Oedran

Fel rhan o’n hethos cryf o drin pawb yn gyfartal, byddwn hefyd yn sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei drin yn llai ffafriol oherwydd eu horiau gwaith – h.y. yn sgil contract rhan amser neu gyfnod penodol. Amcan Techniquest yw sicrhau bod unigolion yn cael eu dewis, eu dyrchafu a’u trin yn seiliedig ar eu dawn, eu sgiliau a’u gallu.

Byddwn yn rhannu ein polisi gydag unrhyw asiantaeth sy’n cefnogi ein prosesau recriwtio a bydd copi ar gael i bob un cyflogai ac yn hysbys i bawb sy’n ymgeisio am swydd gyda ni.

Hygyrchedd

Rydyn ni’n sicrhau bod Techniquest yn hygyrch i weithwyr, ymwelwyr a chleientiaid, ac mae ein cyfleusterau wedi’u dylunio i sicrhau bod symud o amgylch yr arddangosfeydd a’r ardaloedd lle cynhelir digwyddiadau yn rhwydd.

  • Mae lifft rhwng lloriau.
  • Mae gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch mewn lle gydag ardaloedd diogel a chadeiriau achub ar gael fel rhan o’n rhagofalon tân.
  • Mae mynediad am ddim i ofalwyr hanfodol pan fo gofyn am gefnogaeth ychwanegol.
  • Rydyn ni wedi ymrwymo i greu deunyddiau marchnata, arwyddion, taflenni ac ati mewn ystod o ffurfiau gwahanol, er mwyn sicrhau hygyrchedd, cynhwysiad a dealltwriaeth.
  • Mae Techniquest yn cydnabod mor bwysig yw hi i ddarparu rhaglenni a gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn yn darparu deunyddiau ac arwyddion dwyieithog pan yn bosib.
  • Bydd testun mewn maint a lliw sy’n hawdd i’w ddarllen.
  • Byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol er mwyn cefnogi ein gweithwyr yn eu gwaith yn ystod beichiogrwydd, ar ôl salwch, anabledd ac wrth ddychwelyd i’r gwaith.

Gellir gweld fersiwn fwy manwl o’r polisi yma ac / neu ein strategaeth C, A, C ar gais.