Mae gan Techniquest nifer o leoliadau ffilmio ar gael at ddibenion ffilmio masnachol ac anfasnachol. Yn eu plith mae:
Y Neuadd Arddangos
Y Theatr Wyddoniaeth
Y Lab
Y Planetariwm
Cefn y tŷ – yn cynnwys swyddfeydd ac ardaloedd cynnal a chadw
Lleoliadau tu allan, gan gynnwys ein teras to gyda golygfeydd o’r bae
Mae gan ein hadeilad cyfoes, arobryn, olygfeydd ysblennydd o’r bae, ac mae’n gefndir perffaith ar gyfer ffilm, teledu, hysbysebion a fideos corfforaethol.