Techniquest

Mae Techniquest yn ganolfan darganfod gwyddoniaeth flaenllaw sydd ag enw da yn fyd-eang am ragoriaeth ac arloesedd.

Dyma gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm. Rydyn ni newydd weddnewid Techniquest, ac mae’n gartref i gynulleidfaoedd o bob oed ymwneud â phynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).

Gallwch ddarganfod mwy am ein gweledigaeth yn ein strategaeth, a dilynwch y dolenni isod i weld ein:

Disability Confident Employer We are a Living Wage Employer

“Mae e wedi bod yn hyfryd cydweithio â phob un ohonoch chi. Roedd e fel bod yn rhan o un teulu MAWR. ‘Dw i wedi mwynhau bob dydd. Diolch am yr atgofion melys. Bydda i’n gweld eisiau pawb.”

Shameema [hen eilod o'n tîm], Mawrth 2023

Gweler isod restr o swyddi gwag presennol a sut i ymgeisio.


Rheolwr ar Ddyletswydd

  • Swydd: Amser llawn — o ddydd Mercher tan ddydd Sul ond gyda’r hyblygrwydd i sicrhau ein bod yn gallu gweithredu dros saith diwrnod
  • Cyflog: £27,000
  • Dyddiad cau: 5pm dydd Sul 20 Ebrill 2025

Ydych chi’n hoff o bobl ac yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd sy’n wynebu cwsmeriaid? Ydych chi’n ymhyfrydu yn yr her o gael y gorau o bob aelod o’r timau o dan eich gofal? Ydych chi’n gyfathrebwr da gyda sgiliau trefnu cryf?

Rydyn ni’n chwilio am rywun sydd â hynny i gyd a mwy, a fyddai’n mwynhau bod yn rhan o dîm bach sy’n benderfynol o ddarparu profiad eithriadol i gwsmeriaid bob tro.

Techniquest, sydd wedi’i lleoli ar lan y dŵr ym Mae Caerdydd, yw’r Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth bwrpasol fwyaf hirsefydlog yng ngwledydd Prydain. Rydyn ni’n frwd dros ysbrydoli chwilfrydedd drwy Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, y Celfyddydau a Mathemateg (STEAM) ac rydyn ni’n croesawu dros 160,000 o ymwelwyr bob blwyddyn — cymysgedd o deuluoedd, ysgolion, oedolion annibynnol, grwpiau a chleientiaid corfforaethol.

Fel elusen addysgol ac atyniad poblogaidd i ymwelwyr, ein nod yw sicrhau bod ein holl ymwelwyr yn cael yr amser gorau posib gyda ni. Mae rhan annatod o’r profiad yna’n cael ei ddarparu gan ein timau blaen tŷ a’n cyflwynwyr gwyddoniaeth byw, ac mae angen iddyn nhw gynnig croeso cynnes a phrofiad diogel a di-drafferth i’n gwesteion, ac ymwneud yn rhagweithiol â’n holl gwsmeriaid: gan helpu i ddod â gwyddoniaeth yn fyw i bawb sy’n ymweld.

Fel Rheolwr ar Ddyletswydd, byddwch yn gyfrifol am oruchwylio’r timau a gwneud yn siŵr bod pawb yn cyrraedd safon gyson uchel o ran ymgysylltu â’n holl ymwelwyr.

Byddwch yn canolbwyntio ar y cwsmer ac yn mwynhau ymwneud â phobl ar eu gorau — a bydd gennych brofiad o ymwneud â nhw ar eu gwaethaf hefyd. Byddwch yn deall sut i reoli a thawelu sefyllfaoedd anodd, sut i ysbrydoli’ch tîm i fod ar eu gorau yn gyson, yn ogystal â bod yn hyderus wrth reoli logisteg, iechyd a diogelwch, a gweithrediadau blaen tŷ cyffredinol.

Byddwch yn angerddol am gyfathrebu gwyddoniaeth a thechnoleg, gyda safon uchel o sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar. Bydd gennych hefyd safon dda o addysg, gyda chymhwyster TGAU mewn Mathemateg a Saesneg ar Radd C neu uwch, a dealltwriaeth gadarn o weithio mewn atyniad i ymwelwyr. Bydd sgiliau arwain tîm a rheoli pobl ymhlith eich cryfderau mawr, ochr yn ochr â sgiliau trefnu rhagorol a sylw gofalus i fanylion.

Dyma flas o’r hyn rydyn ni’n ei wneud:

  • Cartref i dros 120 o arddangosion rhyngweithiol
  • Llwyfannu sioeau gwyddoniaeth byw yn ein Theatr Wyddoniaeth bwrpasol
  • Cynnal Teithiau Sêr yn ein Planetariwm 360° clyd
  • Cyflwyno gweithdai ymarferol yn Labordy KLA
  • Trefnu digwyddiadau arbennig gan gynnwys: Dyddiau Plant Bach, Dyddiau Addysgwyr Cartref, a Sesiynau Hamddenol ar fore dydd Sul
  • Cynnal digwyddiadau ‘dim ond i oedolion’ gan gynnwys: digwyddiadau gyda’r nos i oedolion, digwyddiadau ar ôl oriau, a phrynhawniau’r Caffi Gwyddoniaeth
  • Cyflwyno gweithgareddau Allgymorth ac Ymgysylltu i gymunedau lleol
  • Trefnu Prosiectau Addysg ar gyfer ystod eang o ysgolion

A llawer mwy!

Fel sefydliad cynhwysol, rydyn ni wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac i feithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol. Felly beth ydyn ni’n ei gynnig? Dyma gipolwg:

  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol a Gwyliau Banc ar ben hynny
  • Diwrnod lles ychwanegol
  • Diwrnod i ffwrdd ar gyfer eich pen-blwydd
  • Deg tocyn am ddim bob blwyddyn i ffrindiau a theulu gael ymweld
  • Cynllun talebau gofal plant
  • Cynllun beicio i’r gwaith
  • Mynediad at Raglen Cymorth i Weithwyr
  • Amgylchedd tîm bach, cefnogol
  • Cyfle i weithio mewn amgylchedd ysbrydoledig a chreadigol

Os yw hyn yn swnio fel rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi, darllenwch y disgrifiad o’r swydd isod i gael gwybod mwy:

  Disgrifiad o’r Swydd

Os oes gennyt ti unrhyw gwestiynau penodol, peidiwch ag oedi i e-bostio ni.

Os hoffech chi wneud cais, llenwch ein ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal o dan.

  Ffurflen cais   Ffurflen cyfleoedd cyfartal   Cyflwyno’ch cais