Anifeiliaid a Chynefinoedd Ymunwch â ni ar daith i gynefinoedd gwahanol – o rai mwy cyfarwydd i rai llai cyffredin ym mhob cwr o’r byd. Byddwn yn defnyddio sgiliau rhifedd a llythrennedd i edrych ar y cynefinoedd a’r anifeiliaid sy’n perthyn iddynt. Byddwn yn edrych yn fanwl ar yr anifeiliaid i weld beth yw eu nodweddion arbennig a pham eu bod yn ffynnu yn eu cynefinoedd penodol. Ar gael yn Gymraeg a Saesneg. |
O Dan y Môr Ymunwch â ni mewn daith gyffrous i’r cefnfor a ddarganfod y creaduriaid chwilfrydig dan y môr! O’r haen golau haul i’r dyfnderoedd pell, pwy fyddwn ni’n cwrdd ar y ffordd a beth fyddwn ni’n ddysgu? O ddolffiniaid i giwcymbrau môr, gwyliwch wrth i ni ail greu’r pethau diddorol a rhyfedd am y creaduriaid hyn yn ein labordy cefnfor. Yn y sioe ryngweithiol hon, bydd disgyblion yn archwilio dyfnderoedd y cefnfor ac yn dysgu am y creaduriaid sy’n byw yno. Ar gael yn Gymraeg a Saesneg. |
Popeth Amdanaf I Mae Gruff, ein cyflwynydd, yn y ffair. Dewch i’w helpu i archwilio’r corff dynol a’r synhwyrau, gyda llu o bosau a heriau hwyliog ar hyd y ffordd. Mae’r sioe ryngweithiol boblogaidd yma yn annog disgyblion i ddatblygu eu sgiliau datrys problemau. Byddant yn edrych ar rannau o’r corff, yn dysgu sut rydyn ni’n defnyddio ein synhwyrau ac yn dod i ddeall mwy am y gwahaniaethau rhyngom ni ac anifeiliaid eraill. Ar gael yn Gymraeg a Saesneg. |
Taith Deinosor Ar ôl archwilio ffosilau traethau De Cymru a pharatoi am antur, beth am fynd ar antur gyda Bethan yn ei pheiriant amser, a theithio nôl 65 miliwn o flynyddoedd? Helpwch Bethan wrth iddi deithio i’r traeth a dod i ’nabod ymlusgiaid cynhanes enwog o’r tir a’r môr. Byddwn yn dysgu llawer amdanynt – o’r bwyd roeddent yn ei fwyta i ba nodweddion roedden yn eu rhannu gydag anifeiliaid eraill sy’n bodoli heddiw. Ar gael yn Gymraeg a Saesneg. |
Anifeiliaid a Chynefinoedd Dewch ar daith o amgylch gwarchodfa anifeiliaid Techniquest a sylfaenwyd i astudio anifeiliaid mewn perygl. Yn anffodus mae’r anifeiliaid wedi dianc i gynefinoedd ei gilydd. Gyda’n cyflwynydd byddwch yn dysgu am nodweddion arbennig y cynefinoedd a pha anifeiliaid sy’n fwyaf tebygol o fyw yna’n hapus. Byddwn yn edrych ar sut mae’r anifail yn gallu addasu, pam eu bod nhw’n dewis mannau arbennig yn gartref, ac yn dysgu am y bwyd maent yn ei hoffi a sut y dylem ni eu bwydo nhw. Ar gael yn Gymraeg a Saesneg. |
Cemeg Lliwgar Dewch i ddarganfod pam mae gwyddonwyr yn defnyddio lliw mewn gwaith cemeg, a pham fod lliwiau mor ddefnyddiol. Byddwn yn dysgu beth yw lliw a sut gaiff lliwiau eu defnyddio yn ein bywydau bob dydd yn ogystal â deall mwy am sut gallwn ddefnyddio adweithiau cemegol i wneud pethau defnyddiol a hardd. Cyfle hefyd i ddysgu am un arbrawf hawdd i chi ei wneud gartref. Ar gael yn Gymraeg a Saesneg. |
Erlidwyr Comed Dewch i gyfarfod Richie Gold, egin ofodwr a biliwnydd sydd a’i bryd ar gloddio am asteroidau yn y gofod! Drwy ei brif wyddonydd byddwn yn dysgu am gomedau ac asteroidau a’r heriau sy’n wynebu gwyddonwyr sydd am eu hastudio. Bydd y fideo yn cynnwys: Geirfa — beth yw’r gwahaniaeth rhwng seren wib a gwibfaen; o beth mae asteroidau a chomedau wedi’u creu; pam oes gan gomed gynffon; beth sy’n digwydd pan mae asteroid yn gwrthdaro â phlaned; pam fod sêr gwib yn llosgi yn yr atmosffer; adnabod comedau ac asteroidau gyda thelesgop; telesgopau drych a thelesgopau’r gofod; sbectrosgopeg; yr heriau sy’n glwm â dod ag eitemau mawr yn ôl i’r Ddaear. Ar gael yn Gymraeg a Saesneg. |
Taith Deinosor Nid dinosoriaid oedd yr unig anifeiliaid cynhanes! Er bod ymlusgiaid wedi teyrnasu am filiynau o flynyddoedd, yn y sioe hon byddwn yn dangos bod gan ddinosoriaid gymaint yn fwy i’w gynnig na’r dannedd mawr a’r crafangau enwog sydd i’w gweld mewn ffosilau. Dysgwch sut i redeg fel velociraptor, cnoi fel tyrannosaur, hedfan fel pterosaur a gwyliwch asteroid yn llosgi drwy’r atmosffer o ddiogelwch eich dosbarth. Ar gael yn Gymraeg a Saesneg. |
Fforwyr y Cefnfor Gyda dros 70% o arwyneb ein planed wedi’i orchuddio gan gefnfor byd-eang anferth, mae’n rhan hollbwysig o ecosystem y Ddaear ac yn llawn bywyd o bob math. Ymunwch â ni ar daith sy’n mynd â ni o riffiau cwrel i’r dyfnderoedd tywyllaf islaw, lle welwn ni bysgod sy’n goleuo yn y tywyllwch ac amrywiaeth fawr o greaduriaid chwilfrydig ar hyd y ffordd. Byddwn yn darganfod mwy am y ffordd y mae ein moroedd yn newid a’r hyn y gallwn ni i gyd ei wneud i helpu i ddiogelu’r amgylchedd o dan y ddwr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Cewch gyfle i brofi’ch gwybodaeth am y cefnfor gyda’n cwis ffeithiau pysgodlyd a gweld a ydych chi’n debygol o fod yn eigionegydd eich hun! Ar gael yn Gymraeg a Saesneg. |
Ffermio Heddiw — Cipolwg ar Gefn Gwlad Dewch i dreulio amser gyda ffermwyr gwahanol sydd oll yn ceisio gwneud rhywbeth i helpu’r amgylchfyd. Mewn arddull ‘newyddion yn torri’ byddwn yn edrych ar sut mae’r ffermwyr yn defnyddio’r gylchred garbon i helpu ein hamgylchfyd, a bydd ein dyn tywydd yn edrych ar effeithiau nwy tŷ gwydr ar ein hinsawdd a’r hyn mae ffermwyr yn ei wneud i helpu. Fe glywn gan ffarmwr llaeth am y newidiadau mae ffermwyr yn eu gwneud i fod yn fwy ecogyfeillgar. Bydd ein cyflwynydd chwaraeon yn cynnal cystadleuaeth i weld sut mae’r ffermwyr yn trin eu pridd i helpu ein hafonydd pan fydd hi’n bwrw glaw. Ac i gloi byddwn yn edrych ar sut mae’r ffermwyr yn addasu eu tir i ddenu planhigion ac anifeiliaid. Ar gael yn Gymraeg a Saesneg. |
Ysgol yr Ysbrydion Croeso i Ysgol yr Ysbrydion! Byddwn yn defnyddio gwyddoniaeth a thechnoleg i wneud y mwyaf o ddathliadau Calan Gaeaf! Bydd ein disgyblion yn Ysgol yr Ysbrydion yn dysgu am foddion gwrachod, yn creu mygydau erchyll ac yn mwynhau ambell i syrpreis iasol, llawn hwyl! Peidiwch â cholli allan ar hwyl a sbri Calan Gaeaf chwi ellyll! Ar gael yn Gymraeg a Saesneg. |
Sioe’r Corff Dynol Rydyn ni’n cychwyn o smotyn bychan ac yn tyfu’n oedolion — waw! Dewch i ddysgu sut rydyn ni’n newid dros amser. Byddwn yn dysgu am y corff dynol — o’r esgyrn hiraf i’r rhai lleiaf, a sut mae ein horganau yn gweithio. Dewch i ddeall mwy am eich curiad calon, sut rydyn ni’n anadlu a beth sydd angen i ni ei wneud i gadw ein cyrff yn iach, yn y fideo rhyngweithiol yma. Ar gael yn Gymraeg a Saesneg. |
Allan o’r Byd Dewch i ddilyn TechniSpace, sefydliad archwilio’r gofod newydd sydd am lansio’i ofodwr cyntaf i’r Orsaf Ofod Rhyngwladol. Gwyliwch wrth i’r Prif Wyddonydd, y gofodwr a’r Bos ddelio â rhai o heriau gofod-deithio. Sut fydd y gofodwr yn cyrraedd yr Orsaf? Pa beryglon fydd yn aros amdanynt a sut fydd y prif Wyddonydd yn sicrhau taith ddiogel gartref? Mae’r fideo yma’n archwilio’r ffiseg a’r fioleg sy’n annatod i ofod-deithio — o ddeddfau mudiant Newton i fwyd y gofod. Dyma’r themâu sy’n gynwysedig yn y fideo a’r adnoddau cysylltiedig: • Deddf Mudiant Newton • Iechyd corfforol gofodwyr • Sbwriel y Gofod • Effeithiau gwactod ar y corff • Dychwelyd i atmosffêr y Ddaear • Bwyd a dŵr yng Ngorsaf Gofod Rhyngwladol (ISS) • Rocedi a ffilmiau o lansio roced go iawn. Ar gael yn Gymraeg a Saesneg. |
Sioe y Pegynau Dewch i ddysgu mwy am begwn y gogledd a phegwn y de — yr hyn sy’n digwydd yno heddiw a beth mae hyn yn ei olygu i ddyfodol ein planed. Byddwch yn dysgu am stori anffodus y fforiwr Robert Scott a’r hyn y mae gwyddonwyr yn ei wneud yno heddiw. Dysgwch am yr heriau maent yn eu hwynebu a’r ffordd maent yn troi at anifeiliaid a phlanhigion am ysbrydoliaeth wrth eisio datrys yr heriau. Darganfyddwch y gwahaniaeth rhwng pegwn y gogledd a’r de. Byddwn yn dysgu fwy am wyddoniaeth amgylcheddol a’i bwysigrwydd heddiw. Ar gael yn Gymraeg a Saesneg. |
Victorian Medicine Cyflwyniad i feddyginiaeth yn ystod Oes Fictoria gan Roger Morgan. Dysgwch am fywyd heb anesthetig, am y llawfeddygon medrus oedd yn gorfod gweithio’n gyflym, a sut newidiodd bywyd dros amser. Ar gael yn Saesneg yn unig. |
Newid Hinsawdd Ymunwch â ni wrth i ni edrych ar newid hinsawdd ein planed. Byddwn yn ymchwilio effaith dynol ac achosion naturiol o newid hinsawdd a’r hyn y gallwn ni ei wneud i leihau’r effaith ar ein planed. Ar gael yn Gymraeg a Saesneg. |
STEM mewn Chwaraeon gyda’r Dreigiau Gyda help tîm rygbi’r Dreigiau byddwn yn edrych ar sut mae gwyddoniaeth yn chwarae rhan bwysig ym myd chwaraeon a sut mae athletwyr yn defnyddio STEM i aros ar y brig. Byddwn yn edrych ar ddeiet a maeth athletwyr a’r hyn sydd ei angen arnynt i berfformio ar eu gorau. Byddwn yn edrych ar sawl math o chwaraeon gan ddysgu am yr holl elfennau pwysig. Drwy ddeall elfennau gwyddonol mae athletwyr yn gallu gwella ar eu perfformiad — o ddeall am ffrithiant mewn sgrym, neu wybod am y ffordd orau i basio pêl — mae deall STEM yn gallu rhoi mantais arbennig i athletwyr. Ar gael yn Gymraeg a Saesneg. |
Fyny ac Atom: Adweithiau Bywyd Go Iawn Eich ffôn. Eich arian. Eich cinio. Dyma ambell i enghraifft o’r ffordd mae cemeg yn chwarae rhan hollbwysig yn ein bywydau bob dydd. Mae popeth sy’n bodoli heddiw yn bodoli oherwydd cemeg. Ymunwch a ni wrth i ni fentro i fyd o gemeg — i ddeall hanfodion syml strwythurau cemegol, adweithiau ffrwydrol, a dysgu am y bobl hynny sy’n defnyddio cemeg bob dydd i wneud bywyd yn haws i bob un ohonom ni. Ar gael yn Gymraeg a Saesneg. |
I mewn I’r ddyfnder Gyda dros 70% o arwyneb ein planed wedi’i orchuddio gan gefnfor byd-eang anferth, mae’n rhan hollbwysig o ecosystem y Ddaear ac yn llawn bywyd o bob math. Ymunwch â ni ar daith sy’n mynd â ni o riffiau cwrel i’r dyfnderoedd tywyllaf islaw, lle welwn ni bysgod sy’n goleuo yn y tywyllwch ac amrywiaeth fawr o greaduriaid chwilfrydig ar hyd y ffordd. Byddwn yn darganfod mwy am y ffordd y mae ein moroedd yn newid a’r hyn y gallwn ni i gyd ei wneud i helpu i ddiogelu’r amgylchedd o dan y ddwr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Cewch gyfle i brofi’ch gwybodaeth am y cefnfor gyda’n cwis ffeithiau pysgodlyd a gweld a ydych chi’n debygol o fod yn eigionegydd eich hun — Welwn hefyd ffordd ffrwydrol I creu dwr! Ar gael yn Gymraeg a Saesneg. |
Gwyddonwyr Cymraeg / Cymru, STEM a’r Byd Mae Cymru wedi chwarae rhan bwysig yn y byd gwyddonol, er mor fach yw ein gwlad ni. Dros y blynyddoedd mae Cymru wedi ysbrydoli ac annog gwyddonwyr o bob cwr o’r byd. Ymunwch â ni wrth i ni edrych ar gyfraniadau arbennig arloeswyr Cymreig a darganfyddwch sut mae gwyddonwyr yng Nghymru heddiw ar flaen y gad gyda darganfyddiadau newydd. Byddwn yn edrych hefyd ar sut mae’r wyddoniaeth sy’n digwydd yng Nghymru heddiw yn siapio’r byd am flynyddoedd maith. Ar gael yn Gymraeg a Saesneg. |
Mae’n costio £50 fesul sioe, sy’n rhoi hyd at 4 cod mynediad, sef mynediad i hyd at 4 dosbarth.
Unwaith y byddwch wedi agor y cod mae gennych chi 21 diwrnod i edrych ar y cynnwys, cynllunio a lawrlwytho unrhyw adnoddau cysylltiedig ar gyfer eich disgyblion.
Mae’n bosib y bydd eich ysgol yn gymwys i dderbyn sioeau AM DDIM. Rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau bod cyllid ar gael i gefnogi ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig sydd â lefel uchel o amddifadiad. Cysylltwch â ni os ydych chi’n meddwl y gallai’ch ysgol fod yn gymwys.
O.N. Mae hyn yn ddibynnol ar gyllid ac ni allwn ei warantu.
Ar ôl i chi dderbyn Cod Mynediad bydd Techniquest yn anfon anfoneb at eich ysgol.
I archebu sioe ddigidol, gofynnwn i chi gwblhau a chyflwyno’r ffurflen ymholi isod.