Techniquest

School Travel Awards 2024 — FinalistWales STEM Awards — Winner 2023 — STEM Educational Programme of the Year (not-for-profit)Mae gennym ni dros 100 o arddangosion ymarferol i gyfoethogi profiadau dysgu plant a phobl ifanc o bob oed. Trefnwch daith fythgofiadwy.

Pa un ai’n dysgu pethau newydd neu’n atgyfnerthu’r hyn sydd wedi’i ddysgu yn y dosbarth, daw’r wyddoniaeth yn fyw dan flaenau eich bysedd yn Techniquest.

  Ffurflen ymholi am daith ysgol

“Diwrnod gorau ein bywydau ni!”

Disgyblion o Ysgol Gynradd Pen-y-bont

Beth am ychwanegu opsiynau megis sioe wyddoniaeth fyw, taith o dan y sêr yn y planetariwm neu brofiad ymarferol yn y Lab KLA i gwblhau eich ymweliad?

Mae pob sioe wedi’i theilwra yn unol â’r cwricwlwm ac wedi’i thargedu ar gyfer Camau Cynnydd a Chyfnodau Allweddol gwahanol.

Pan fyddwch yn cyrraedd ein hadeilad, byddwch yn cael eich croesau gan staff Techniquest a fydd yn esbonio trefniadau eich ymweliad ac yn sicrhau bod pob dim yn rhedeg yn esmwyth. Gall athrawon ganolbwyntio ar y disgyblion a’r profiad dysgu.

Pryd gallwn ni ymweld â Techniquest?

Mae ymweliadau ysgol ar gael bob dydd Mercher a dydd Iau a bron bob dydd Gwener yn ystod y tymor ysgol.

Gallwch ddewis o un o’r slotiau amser canlynol, yn ddibynnol ar argaeledd:

Math o Ymweliad Opsiwn 1 Opsiwn 2 Opsiwn 3
Gyda Sioe Wyddoniaeth Fyw 10:15am – 1:00pm 10:45am – 1:30pm 11:00am – 2:00pm
Gyda sioe Blanetariwm 10:00am – 12:45pm 10:30am – 1:15pm 10:45am – 1:30pm
Gyda gweithdy Lab KLA 11:00am – 2:00pm 11:15am – 2:15pm
Arddangosfeydd yn unig Gwahanol amseroedd ar gael, yn ddibynnol ar argaeledd


The Great British School Trip

Rydyn ni’n rhan o ‘The Great British School Trip’, sydd wedi’i gefnogi gan Hyundai! Oes angen cymorth ariannol neu adnoddau addysgol ar eich ysgol chi, ar gyfer taith ysgol? Darganfyddwch fwy o fanylion a sut i wneud cais.

Sioeau a Gweithdai

Science Theatre

Beth am ychwanegu sioe wyddoniaeth anhygoel, i gyfoethogi profiad eich disgyblion?


Tymor yr Hydref 2024

Sioe’r Corff Dynol
12, 19–20, 25 Medi 2024

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Popeth Amdanaf I
23–25 Hydref 2024

Cam Cynnydd 2 Y Cyfnod Sylfaenol

Anifeiliaid a Chynefinoedd
14–15, 22 Tachwedd 2024

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Anifeiliaid a Chynefinoedd
27–29 Tachwedd 2024
4–5 Rhagfyr 2024

Cam Cynnydd 2 Y Cyfnod Sylfaenol

Credwch yn y Corach
11–13, 19–20 Rhagfyr 2024

Cam Cynnydd 2 Y Cyfnod Sylfaenol
Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2


Tymor y Gwanwyn 2025

Elfennol
16–17, 22–24 Ionawr 2025

Cam Cynnydd 4 Cyfnod Allweddol 3

Chwedlau Tylwyth Teg
29–31 Ionawr 2025

Cam Cynnydd 2 Y Cyfnod Sylfaenol

Chwilotwyr y Cefnfor
5–6, 13–14, 18 Chwefror 2025

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Gwyddoniaeth Gogoneddus
5–6 Mawrth 2025

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Cymru, STEM a’r Byd
12–14, 20–21 Mawrth 2025

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Sioe’r Grymoedd
26–28 Mawrth 2025
2–3, 10–11 Ebrill 2025

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2


Tymor yr Haf 2025

Nodwch: byddwn ni’n rhyddhau’r dyddiau llawn a’r opsiwn i archebu’r tymor hwn ym mis Medi 2024.

Ar Eich Marciau, Parod… Mathemateg!
Dyddiau dethol ym mis Ebrill a mis Mai 2025

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Yn y Syrcas
Dyddiau dethol ym mis Mai 2025

Cam Cynnydd 2 Y Cyfnod Sylfaenol

Hyd a Lledrith Mathemateg
Dyddiau dethol ym mis Mehefin 2025

Cam Cynnydd 4 Cyfnod Allweddol 3

O Gwmpas y Byd
Dyddiau dethol ym mis Mehefin 2025

Cam Cynnydd 2 Y Cyfnod Sylfaenol

Cemeg Lliwgar
Dyddiau dethol ym mis Gorffenaf 2025

Cam Cynnydd 2 Y Cyfnod Sylfaenol
Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2


Mae sioeau gwyddoniaeth yn costio £2.50 ychwanegol fesul bob disgybl.

Planetarium

  Taflunydd 4K

Camwch i mewn i Blanetariwm ddigidol Techniquest a dewch am dro drwy’r Bydysawd — mae sêr, planedau a galaethau diri yn aros amdanoch chi!

Bydd disgyblion yn dysgu sut i adnabod sêr, planedau a chytserau y gellir eu gweld o’r Ddaear, ac yn mentro tu hwnt i’r Llwybr Llaethog i weld rhyfeddodau’r bydysawd. Gall gyflwynwyr ddangos y sêr a’r planedau’n agos, a rhannu lluniau o graterau lleuadau pell a ffenomenau eraill. Mae’r cyfan yn helpu atgyfnerthu profiadau dysgu’r disgyblion ac yn annog angerdd am gosmoleg a seryddiaeth.

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2


Mae sioeau Planetariwm yn costio £2.50 ychwanegol fesul bob disgybl.

The KLA Lab

Newydd — ein Lab KLA newydd sbon, wedi’i ariannu gan y Sefydliad Garfield Weston a Sefydliad KLA.

Dewch â’ch disgyblion i brofi beth yw bod yn wyddonwr go iawn! Mae pob gweithdy’n para 45 munud. Dewiswch un o’r gweithdy sydd ar gael.


Tymor yr Hydref 2024

Junior Brain Surgeon
12, 19–20, 25 Medi 2024

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Survival Science
23–25 Hydref 2024

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

The Magic of Science
14, 22, 27–29 Tachwedd 2024

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Santa’s Spy Squad
4–5, 11–13, 19–20 Rhagfyr 2024

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2


Tymor y Gwanwyn 2025

DNA Decoded
16–17, 22–24, 29–31 Ionawr 2025

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Water’s Going On?
5–6, 13–14, 18 Chwefror 2025

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Sci-Spy Squad
5–6, 12–14, 20–21 Mawrth 2025

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Fantastic Forces
26–28 Mawrth 2025
2–3, 10–11 Ebrill 2025

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2


Tymor yr Haf 2025

Nodwch: byddwn ni’n rhyddhau’r dyddiau llawn a’r opsiwn i archebu’r tymor hwn ym mis Ionawr 2025.

Survival Science
Dyddiau dethol ym mis Mai 2025

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Rocket Science
Dyddiau dethol ym mis Mai a Mehefin 2025

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Environmental Science
Dyddiau dethol ym mis Mehefin 2025

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2

Colour Chaos
Dyddiau dethol ym mis Gorffenaf 2025

Cam Cynnydd 3 Cyfnod Allweddol 2


Mae gweithdy Lab yn costio £2.50 ychwanegol fesul bob disgybl.

Faint mae’n costio?

Mae mynediad i’r arddangosfa, sydd bellach yn cynnwys dros 100 o arddangosion ymarferol yn £5 y plentyn.

Mae gweithgareddau ychwanegol fel a ganlyn:

  • Theatr Wyddoniaeth: £2.50 y disgybl
  • Planetariwm: £2.50 y disgybl
  • Y Lab KLA: £2.50 y disgybl

Mynediad am ddim i athrawon sy’n mynychu gyda disgyblion.

Sut i archebu

Cwblhewch ein ffurflen ymholi a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

  ffurflen ymholi am daith ysgol