Gallwn addasu’r ardal arddangos er mwyn cynnal llu o ddigwyddiadau – gan gynnwys ciniawau a digwyddiadau rhwydweithio. Mae digonedd i’w weld ar draws dau lawr sy’n llawn arddangosion rhyngweithiol.
Gallwn ddarparu llwyfan ar gyfer seremonïau gwobrau, siaradwyr gwadd neu adloniant byw. Gallwn drefnu goleuo arbennig, sgriniau neu pethau ychwanegol eraill.
The Science Theatre is fully equipped with audio-visual facilities and is ideal for presentations, lectures and award ceremonies. Its capacity ranges from 80–100, depending on whether the presentation is for an adults-only, children-only or mixed audience.
Themed Techniquest shows hosted by our Live Science Hosts can also be added to any event package.
Ymlaciwch o dan y sêr yn Planetariwm digidol pwrpasol Techniquest a gwyliwch wrth i’r bydysawd ddatblygu o’ch cwmpas. Profiad gwirioneddol y tu allan i’r byd hwn, perffaith ar gyfer darparu pwynt siarad yn eich digwyddiad rhwydweithio nesaf!
Gellir ychwanegu Planetarium Star Tours at unrhyw becyn digwyddiad Techniquest.
Mae’r Labordy KLA wedi’i adnewyddu’n ddiweddar ac mae’n berffaith ar gyfer cyfarfodydd unigryw, gweithgareddau adeiladu tîm a man ymlacio hwyliog i westeion cynadleddau.
Mae capasiti a ffurf yr ystafell wedi’i osod i 32 o westeion, gyda byrddau hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn os oes angen.
Mae’r Hyb Dysgu yn ofod amlddefnydd a all ddal hyd at 70 o westeion mewn arddull theatr a hyd at 40 mewn ystafell ddosbarth. Mae’n berffaith ar gyfer cyfarfodydd bach neu i’w ddefnyddio fel man ymneilltuo ar gyfer cynhadledd neu ddigwyddiad mwy.
Mae’r ystafell wedi’i lleoli ar y llawr gwaelod ar lan y dŵr o’r adeilad ac yn elwa o ddigonedd o olau naturiol a drysau rholio sy’n agor i’r tu allan.
Mae gennym bellach daith rithwir ar gael hefyd, sy’n eich galluogi i weld ein holl ofodau llogadwy mewn 3D.
Agorwch y daith hon mewn ffenestr ar wahân.
Gyda diolch i Picture It 360.
Siaradwch â ni am greu eich digwyddiad perffaith.
Gallwch 029 2047 5475 neu e-bostiwch [email protected].